Mae corff dyn wedi cael ei ganfod yn dilyn ffrwydrad yn Abertawe.

Roedd tŷ wedi cael ei ddymchwel yn dilyn ffrwydrad – a’r glec enfawr i’w chlywed filltiroedd i ffwrdd.

Mae’r gwasanaethau brys wedi cyhoeddi argyfwng mawr, a’r gred yw mai ffrwydrad nwy sydd wedi achosi’r digwyddiad.

Mae’r gwasanaethau brys yn apelio ar i bobol gadw draw o’r ardal am y tro, ar ôl cael eu galw i’r digwyddiad am oddeutu 11.20 fore heddiw (dydd Llun, Mawrth 13).

Wrth i ragor o fanylion ddod i’r fei, fe ddaeth i’r amlwg fod un person ar goll a bod tri arall yn yr ysbyty ac mae adroddiadau bod bachgen wedi cael ei dynnu allan o’r rwbel.

Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae pobol wedi bod yn adrodd iddyn nhw glywed “clec fawr” yn ardaloedd Gellifedw, Sgiwen, Pontardawe ac mor bell i ffwrdd â Phort Talbot.

Ymateb “cymuned mewn sioc”

Wrth i’r newyddion dorri, mae gwleidyddion wedi bod yn ymateb i’r digwyddiad.

“Ofnadwy clywed am y ffrwydrad nwy honedig yn Nhreforys, Abertawe,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae’r gwasanaethau brys yn gofyn i bobol osgoi’r ardal.

“Does dim newyddion ar hyn o bryd am anafiadau na marwolaethau.

“Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio.”