Mae Rheolwr Datblygu Merched Medrus yng Ngheredigion yn dweud ei bod hi’n “bwysig bod menywod sy’n rhedeg ac yn arwain busnesau yng Ngheredigion yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cynnwys”, ac “nad yw menywod sy’n rhedeg elusennau bach a busnesau cymunedol, neu sydd wedi dechrau rhedeg busnes teuluol yn meddwl amdanynt eu hunain fel perchennog busnes”.
Mae gwahoddiad i ferched sy’n rhedeg busnes yng Ngheredigion ymuno â Merched Medrus mewn cyfarfod anffurfiol nos Fercher (Mawrth 15) rhwng 6 o’r gloch ac 8 o’r gloch yn yr Hen Neuadd ar Gampws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy’n cynnal y digwyddiad.
Yn ôl Rebecca Jones, Rheolydd Datblygu Menter y Brifysgol sy’n rhedeg y Merched Medrus, dydy merched yn aml ddim yn cyflawni eu potensial oherwydd bod ganddyn nhw ddiffyg hyder, ac mae’n bwysig fod merched sy’n rhedeg busnes yng Ngheredigion yn teimlo’u bod yn cael eu cynnwys i gydnabod eu hunain fel perchnogion neu arweinwyr busnes.
Yn ystod y noson, byddan nhw’n dathlu llwyddiant menywod mewn busnes yng Ngheredigion, yn clywed sut mae Merched Medrus yn y gorffennol wedi cefnogi merched yr ardal sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain, yn ystyried fel grŵp sut hoffen nhw i Ferched Medrus redeg yn 2023, ac yn trafod pynciau a digwyddiadau ar gyfer 2023.
Helpu ei gilydd
Er nad yw merched wastad yn ymwybodol o’u statws wrth redeg neu fod yn berchen busnes, bydd ysbryd cymunedol i’w deimlo wrth i’r merched ysbrydoli ei gilydd.
“Mae angen i ni fod yn agored i fenywod sy’n rhedeg ac yn arwain busnesau yn yr ardal,” meddai Rebecca Jones wrth golwg360.
“Un peth rydyn ni’n ei wybod am fenywod mewn busnes yw nad ydyn nhw’n aml yn cyflawni eu potensial oherwydd bod ganddyn nhw ddiffyg hyder neu’n teimlo’n ansicr.
“Drwy ddod â menywod at ei gilydd i ddathlu’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni, maen nhw’n gallu annog ei gilydd, cefnogi ei gilydd, a rhoi hwb i’w gilydd.
“Rwy’n meddwl nad ydym yn dathlu ein llwyddiannau cymaint ag y dylem.
“Po fwyaf y gallwn wneud hynny, y mwyaf y mae’n gwella’r siawns o lwyddiant busnes yng Nghymru.”
Hen a newydd
Er bod y merched yn sicr o’r hyn maen nhw eisiau ei gyflawni o’r cyfarfod, gan fod y grŵp wedi ymestyn o Lanbedr Pont Steffan i ardal ehangach Ceredigion, dydy pawb fyddai’n gallu manteisio ar y cyfle ddim wedi bod yn ymwybodol o’i fodolaeth.
Y gobaith, felly, yw agor drysau i ferched sydd heb fynychu o’r blaen.
“Rwy’n bwriadu dod â merched a fu’n rhan o Ferched Medrus o’r blaen ynghyd, a merched newydd hefyd,” meddai Rebecca Jones.
“Mae yna lawer o ferched sydd wedi dechrau busnesau, ac mae yna bobol nad oedd hyd yn oed yn gwybod am Ferched Medrus.
“Arferai fod yn Llanbedr Pont Steffan yn bennaf.
“Rydym yn ei ymestyn ymhellach i Geredigion.
“Y cynllun yw ein bod yn cyd-greu’r ddarpariaeth.
“Mae’r menywod yn mynd i ddweud beth maen nhw ei eisiau, ac rydyn ni’n mynd i geisio cyflawni’r hyn maen nhw ei eisiau yn hytrach na chael ei ragnodi gan unrhyw un, sef sut y digwyddodd pethau yn y gorffennol, ac nid yw hynny’n gweithio.
“Rwy’n meddwl bod y menywod yn gwybod beth maen nhw ei eisiau, ac fe awn ni o’r fan yna.
“Mae’n syniad cyffrous o gyd-greu atebion gyda’n gilydd.
“Y pethau mae angen inni eu gwneud ac mae pobol yn eu dweud yw bod angen cyfleoedd arnyn nhw i dyfu a dysgu gyda’n gilydd.
“Efallai ei fod yn ymwneud â dod â siaradwyr gwadd i mewn i rannu gwybodaeth, neu efallai ei fod yn ymwneud â chefnogi ei gilydd.
“Mae’n ymwneud yn fawr iawn â darganfod beth maen nhw ei eisiau.
“Dyna fyddaf yn gwneud gyntaf.”
Gwreiddiau Merched Medrus
Wedi bodoli ers blynyddoedd maith, gydag arlwy o weithgareddau, ailsefydlodd Rebecca Jones y grŵp ar ôl iddo ddod i ben am gyfnod oherwydd Covid-19, pan newidiodd ei gwaith.
Mae hi’n gweithio ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant, ac yn datblygu gweithgareddau menter yng Ngheredigion, a chanolbarth a gorllewin Cymru.
Cynigiodd hi helpu i ailsefydlu’r grŵp, gan deimlo bod “angen hwb i gael menywod yn ôl at ei gilydd a chefnogi ei gilydd”, meddai, a hithau’n arfer bod yn ymgynghorydd ac yn cynghori’r fenter.
“Cafodd Merched Medrus ei sefydlu sawl blwyddyn yn ôl gan ferched ardal Llanbed i gefnogi ei gilydd a rhannu gwybodaeth a phrofiadau,” meddai.
“Byddem yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn cael siaradwyr a phethau felly.
“Pan gyrhaeddodd Covid, doedden ni ddim yn gallu parhau i gyfarfod.
“Bryd hynny, roeddwn i’n dal i redeg fy musnes fy hun, ac roeddwn yn aelod.
“Mae angen hwb i gael menywod yn ôl at ei gilydd a chefnogi ei gilydd.
“Nid yw’n amser hawdd i berchnogion busnes.”