Fe chwaraeodd stiwdio Grangel yn Barcelona ran flaenllaw yn y ffilm Pinocchio, enillodd yr Oscar eleni ar gyfer y Ffilm Nodwedd Animeiddiedig Orau.

Guillermo del Toro o Fecsico yw cyfarwyddwr y ffilm, ac fe wnaeth y stiwdio Gatalanaidd ddylunio’r pypedau Pinocchio a Geppetto fel rhan o brosiect ddechreuodd yn 2010, yn ôl Catalan News.

Bu’n rhaid gohirio’r cynhyrchiad am gyfnod ar ôl i’r holl arian gael ei wario, ond fe gafodd adfywiad gan dîm cynhyrchu Netflix gyda buddsoddiad o 40m Ewro.

Yn ôl Carlos Grangel, un o sylfaenwyr y stiwdio, roedden nhw’n “credu yn y prosiect o’r diwrnod cyntaf” ond doedden nhw ddim yn gwylio’r seremoni neithiwr (nos Sul, Mawrth 12) gan eu bod nhw’n gweithio dros y penwythnos, ac fe glywon nhw am eu llwyddiant wrth dderbyn galwadau ffôn a negeseuon testun.

Roedd y stiwdio’n cystadlu yn erbyn nifer o gwmnïau mawr fel DreamWorks (Puss in Boots: The Last Wish) ar gyfer y wobr, ac roedden nhw wedi chwarae rhan yn y ffilm honno hefyd.

Mae’r stiwdio eisoes wedi ennill sawl gwobr Emmy hefyd, ac wedi cael sawl enwebiad ar gyfer Oscar yn y gorffennol, gan gynnwys ar gyfer Corpse Bride gan Tim Burton.

Roedd dros 350 o bobol yn gweithio ar Pinnochio, ac yn ôl Carlos Grangel, mae eu buddugoliaeth yn “wyrthiol”.

Dywed Carlos Grangel fod eu buddugoliaeth yn dangos ei bod hi’n bosib denu prosiectau ffilm mawr i Gatalwnia, ond fod arian yn dal i fod yn broblem sylweddol, ac y byddai’n “amhosib” denu 40m Ewro ar gyfer ffilm animeiddiedig eto lle caiff ffilmiau eraill o safon eu cynhyrchu am dipyn llai.

Ffilmiau Gwyddeleg gafodd eu henwebu ar gyfer yr Oscars yn hwb i’r iaith

Roedd siom i’r ffilm The Quiet Girl (An Cailín Ciúin), ond mae hi wedi codi proffil yr iaith ar draws y byd