Roedd tua 40 o rieni a phlant yn protestio tu allan i Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd fore heddiw (dydd Iau, Tachwedd 21), gyda chlociau a’r neges ‘Deffrwch Gyngor Caerdydd’.

Mae’r grŵp ymgyrchu yn galw ar Gyngor Caerdydd i adeiladu ysgol uwchradd Gymraeg newydd yn ne’r ddinas.

Maen nhw’n anfodlon ynghylch “difaterwch” Cyngor Caerdydd tuag at addysg Gymraeg a sylwadau’r Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, oedd wedi cyfeirio at “lai o blant yn yr ysgolion cynradd” yn un o gyfarfodydd y Cyngor.

Anfonodd y grŵp lythyr at y Cynghorydd Sarah Merry a’r Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd y Cyngor, ar Orffennaf 11.

Daeth ymateb dros bedwar mis yn ddiweddarach, ar Dachwedd 20.

‘Dim digon o alw’

Yn ôl Cyngor Caerdydd, mae’r gwymp yng nghyfradd genedigaethau Caerdydd yn golygu nad oes digon o ddisgyblion i gynnal pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg.

Mae’r tair ysgol uwchradd Gymraeg bresennol – Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (Llandaf), Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr (Y Tyllgoed) ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern (Penylan) – i gyd wedi’u lleoli i’r gogledd o ganol y ddinas.

Daw’r esboniad hyn gan y Cyngor er gwaetha’r galwadau gan rieni a’r ddyletswydd sydd ar y Cyngor i gynyddu nifer y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg.

Mae Cyngor Caerdydd wedi gosod targed i gael 14.7% o blant mewn ysgolion uwchradd Cymraeg erbyn 2026-27, ond tua 13.7% oedd y ffigwr yn ôl Cyfrifiad 2021.

Yn rhan o hyn mae’r targed cenedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cydraddoldeb, cynaliadwyedd, a chyfrifoldeb

Yn ôl y grŵp ymgyrchu, mae yna dri rheswm y dylai Cyngor Caerdydd fuddsoddi mewn ysgol uwchradd Gymraeg, sef:

  • Cydraddoldeb: “Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgol yn ei gymuned leol; nid yw hyn yn wir yn achos y mwyafrif o blant de Caerdydd.”
  • Cynaliadwyedd: “Mae’r Cyngor yn anwybyddu anghenion statudol Cenedlaethau’r Dyfodol yn achos y Gymraeg yn ne Caerdydd.”
  • Cyfrifoldeb: “Trwy awgrymu nad oes twf arfaethedig digonol yn y niferoedd i gyfiawnhau ysgol uwchradd yn ne’r ddinas, yr hyn mae Cyngor Caerdydd yn ei ddatgan yw eu bod wedi methu â chyflawni eu cyfrifoldeb, a’u hamcanion nhw eu hunain. Eu dyletswydd nhw yw creu’r galw a chynyddu’r niferoedd, trwy ychwanegu mwy o ffrydiau mewn addysg uwchradd sy’n hygyrch i bob dysgwr.”

“Clociau fel symbol o’r angen iddyn nhw ddeffro i’w cyfrifoldebau”

Yn ôl Carl Morris o’r grŵp ymgyrchu, mae’r clociau gafodd eu dal i fyny gan ddisgyblion a rhieni yn ystod y brotest, yn cael eu harddangos “fel symbol o’r angen iddyn nhw [Cyngor Caerdydd] ddeffro i’w cyfrifoldebau.”

Wrth siarad â golwg360, dywed mai hon oedd y brotest uniongyrchol gyntaf gan y grŵp tu allan i swyddfeydd y Cyngor, a’i bod hi’n rhan o’r “angen” i “ymateb yn gryf i’r Cyngor a’i esgusodion”.

“Mae’n hynod o bwysig bod y Cyngor yn dangos arweinyddiaeth ac uchelgais,” meddai.

“Ac mae’r ffordd mae’r Cyngor yn siarad am addysg Gymraeg yn atgoffa fi o sgwrs am y tywydd – aros am yr amodau ffafriol – ond y Cyngor sy’n creu ysgolion, yn trefnu ysgolion, yn creu capasiti, ac yn hyrwyddo’r cyfle ac yn ysgogi galw.

“Felly, mae’r ddyletswydd arnyn nhw i weithredu.”

Ychwanega fod y Cyngor “wedi ymrwymo i strategaeth sy’n cynnwys twf y Gymraeg”.

‘Cyfle i greu hanes’

Yn ôl Carl Morris, mae yna “gyfle yma i greu hanes” o safbwynt cynnwys plant o amryw o gefndiroedd gwahanol yn y system addysg Gymraeg.

“Mae de Caerdydd yn cynnwys lot o amrywiaeth o ran diwylliant ac incwm hefyd,” meddai.

“Ar gyfartaledd, mae’n cynnwys rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

“Mae eisiau creu ysgol uwchradd Gymraeg er mwyn ymestyn y cyfle [i dderbyn addysg Gymraeg] i bawb.”

Dywed fod yna lawer o “rwystrau” sy’n atal teuluoedd rhag medru hanfon eu plant i ysgolion Cymraeg, gan gynnwys y pellter i’r ysgol uwchradd Gymraeg agosaf.

“Y delfryd yw bod pobol yn cael ysgol ar eu stepen drws sydd yn rhan o’r gymuned, sydd hefyd yn hawdd ei chyrraedd,” meddai.

Ymgyrchu wedi gweithio yn y gorffennol

Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad yw’r unig ysgol Gymraeg i gael ei hadeiladu yng Nghaerdydd dros y degawd diwethaf.

Daeth y penderfyniad i agor yr ysgol yn ardal Bae Caerdydd yn dilyn ymgyrch debyg.

Dywed Carl Morris ei bod yn “galonogol” fod cynifer o bobol wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch yma hyd yn hyn.

“Dw i’n siŵr y bydd yna ysgol uwchradd Gymraeg [arall] yng Nghaerdydd,” meddai.

“Mae’n fater o amser, mae’n anochel, ac mae yn mynd i ddigwydd.”

Ychwanega ei fod yn “hyderus” y bydd ysgol uwchradd Gymraeg i’w blant erbyn iddyn nhw adael Ysgol Hamadryad.

Mae’r grŵp yn cynllunio i wneud mwy o waith ymgyrchu dros y misoedd sydd i ddod, gyda’r nod o gasglu cynifer o lofnodion â phosib i’r ddeiseb.

Ymateb y Cyngor

“Yn 2012, sefydlwyd trydedd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i gefnogi twf y Gymraeg yng Nghaerdydd ac mae nifer y dysgwyr mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu 57% yn ystod y cyfnod, o 2,328 i 3,650,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.

“Mae Caerdydd yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo manteision addysg ddwyieithog a bydd yn blaenoriaethu’r ystod eang o ymrwymiadau a nodir yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) 2022-2031 a fydd yn gwneud pedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn hyfyw yn y dyfodol.

“Mae digon o leoedd ar gael yn y tair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd i gefnogi unrhyw ddisgyblion sydd eisiau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg tan o leiaf blwyddyn dderbyn 2031/32, gyda digon o hyblygrwydd i ymestyn capasiti yn y tymor canolig os bydd angen, ac i ddarparu ar gyfer ein twf targedig.

“Mae’r gostyngiad mewn cyfraddau geni o dros 20% ers 2012 yn cael ei adlewyrchu ledled y wlad ac mae’n golygu bod nifer y plant sy’n mynd i addysg gynradd ledled y ddinas wedi gostwng a bod lleoedd gwag yn cynyddu ym mhob sector.

“Mae cyllid ysgolion yn cael ei ddyrannu ar sail niferoedd disgyblion felly rhaid cynllunio unrhyw ehangu mewn darpariaeth Gymraeg neu Saesneg yn ofalus i sicrhau bod ysgolion yn gallu gweithredu’n effeithiol ac yn gynaliadwy.”