Mae gwerthwyr tai Dafydd Hardy yn dweud y bydd “pob dim yn aros yr un peth” ar ôl iddyn nhw ddod dan berchnogaeth y gweithwyr.

Ar Dachwedd 19, cyhoeddodd y cwmni “garreg filltir” yn eu taith, drwy gyflwyno Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr.

Dyma’r asiantaeth dai gyntaf yng Nghymru i ddilyn y cynllun, ac yn ôl un o sylfaenwyr y cwmni, bydd yn ffordd o amddiffyn swyddi’r gweithwyr yn y dyfodol.

Yn ôl gwefan Perchnogaeth Gweithwyr Cymru, mae cynllun Perchnogaeth gan y Gweithwyr yn golygu bod “gweithwyr y busnes yn berchen yn llwyr ar y busnes hwnnw neu’n berchen arno i raddau helaeth.”

Dywed hefyd fod gwaith ymchwil yn dangos bod “busnesau bach o dan berchnogaeth y gweithwyr yn perfformio’n well” a bod gweithwyr yn “dangos mwy o ddiddordeb ac yn fwy ymroddedig”.

Mae’r cwmni teledu Cwmni Da a chwmni Melin Tregwynt hefyd yn sefydliadau Cymreig sydd yn eiddo’r gweithwyr.

Amddiffyn dyfodol y gweithwyr

Wrth siarad â golwg360, dywed Dafydd Hardy, sylfaenydd Gwerthwyr Tai Dafydd Hardy, eu bod nhw, fel cwmni, yn “falch iawn” o’u penderfyniad.

Er bod perchnogaeth yr asiantaeth yn eiddo’r staff, pwysleisia Dafydd Hardy na fydd newidiadau cyffredinol yn digwydd o fewn y cwmni.

Dywed hefyd mai er mwyn amddiffyn dyfodol y gweithwyr y penderfynodd e a’i gyd-gyfarwyddwr Richard Thomas gyflwyno Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr.

“Y staff sydd berchen y cwmni rŵan,” meddai.

“Y pryder mwyaf oedd [y gellid] gwerthu [cwmni Dafydd Hardy] i gwmni o’r tu allan, ac mi fysan nhw’n dod i mewn ac efallai yn cau un neu ddwy o adrannau’r cwmni.

“Wedyn, mi fysa staff yn colli’u swyddi.

“Felly, beth mae [y cynllun newydd] yn ei olygu yw bod pob dim yn aros yr un peth, ond fod yr eiddo yn nwylo’r staff rŵan.

“Rydan ni yn dal i weithio gyda’r cwmni.

“Beth oedd yn ddiddorol oedd, doedd y staff ddim eisiau i ni adael, felly mi ydyn ni yno i’w helpu nhw.

“Mae Richard, fy mhartner i, yn dal i wneud y gwaith proffesiynol i gyd, a dw i’n dal i wneud y networking a chael mwy o fusnes i mewn i’n busnes.

“Ac o ran y set-up rŵan, Mike Tanner sydd yn arwain y cwmni ymlaen i’r dyfodol.

“Fydd yna ddim byd yn newid i’n cwsmeriaid ni; mi fydd y busnes yn cario ymlaen fel y mae.

“Mi fydd y gwasanaeth, gobeithio, yn dal yn un da; mae’r cleients yn bwysig i ni o ran hynny.

“Mae’r bobol sy’n gweithio o fewn y cwmni rŵan yn teimlo eu bod nhw’n berchen rhywbeth, ac yn falch o hynny.”

‘Balchder’

Wrth i Dafydd Hardy a’i gydweithwyr wynebu’r broses o ddod yn gwmni sy’n eiddo i’w gweithwyr, roedd sefydliadau megis M-Sparc a Cwmpas wedi bod o gymorth mawr iddyn nhw.

Mae’n credu bod Gwynedd “o blaid” cynlluniau Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr ar y cyfan, wrth i lawer weld y “manteision o gadw’r gwaith yn lleol”.

Ychwanega fod “balchder” yn y ffaith mai nhw yw’r asiantaeth dai gyntaf yng Nghymru i ddod dan berchnogaeth gweithwyr.

“Mae yna nifer o bobol wedi bod mewn cysylltiad yn gofyn sut wnaethon ni ei wneud o, felly dw i’n meddwl y bydd disgwyl i fwy o gwmnïau wneud y math yma o beth.

“Rydan ni mor falch ein bod ni wedi’i wneud o, ac yn gobeithio ehangu’r busnes yn y dyfodol.”

Rhoi llais i’r gweithwyr

Mewn datganiad ar wefan Dafydd Hardy, dywed y cwmni fod y newid hwn yn “dyst i’n hymrwymiad, i’n tîm anhygoel, cleientiaid gwerthfawr a’r cymunedau bywiog rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws gogledd Cymru”.

Ychwanega’r asiantaeth dai, o drosglwyddo i “fodel sy’n eiddo i’r gweithwyr”, y byddan nhw’n sicrhau bod aelodau o’u tîm yn “cael dweud eu dweud am ddyfodol cwmni Dafydd Hardy, gan feithrin diwylliant gweithle sydd wedi’i wreiddio mewn cydweithio, cymhelliant a nodau a rennir”.