Mae’r ffilm The Quiet Girl (An Cailín Ciúin) a ffilmiau Gwyddeleg eraill gafodd eu henwebu ar gyfer gwobrau’r Oscars wedi codi proffil yr iaith Wyddeleg – i’r fath raddau nes bod llawer iawn o bobol yn clywed am yr iaith am y tro cyntaf, yn ôl adroddiadau’r Telegraph.

Yn ôl ffigurau newydd, mae’r ffilm sy’n adrodd hanes merch fach yn mynd i fyw gyda theulu maeth wedi annog pobol i fynd ati i ddysgu’r iaith a gwneud i eraill sylweddoli bod gan Iwerddon ei hiaith frodorol ei hun.

Mae athrawon wedi bod yn adrodd am gynnydd yn nifer yr ymholiadau maen nhw’n eu derbyn oedd yn sôn iddyn nhw glywed yr iaith am y tro cyntaf wrth wylio’r ffilm.

Hon yw’r ffilm fwyaf yn hanes yr iaith Wyddeleg, a’r ffilm Wyddeleg sydd wedi denu’r swm mwyaf o arian erioed – y gyntaf i ddenu dros filiwn o Ewros.

Mae rhan fwya’r ffilm trwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg a’i thafodiaith.

Cafodd y ffilm ei henwebu ar gyfer y Ffilm Nodwedd Ryngwladol Orau, y ffilm Wyddeleg gyntaf erioed i gael ei henwebu yn y categori hwnnw.

Yn ôl arbenigwyr, mae hanes y ferch fach a’i theulu yn sir Wexford wedi rhoi hwb i bobol fynd ati i ddysgu’r iaith.

Yn ôl y mudiad Conradh na Gaeilge, fe fu cynnydd sylweddol yn yr ymholiadau ynghylch dysgu’r iaith ers mis Mai y llynedd, pan ddaeth y ffilm allan, gyda nifer y bobol sydd wedi cofrestru ar gyfer gwersi wedi cynyddu 20% dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ers dechrau’r flwyddyn, mae mwy na 1,000 o bobol wedi cofrestru ar gyfer gwersi, ac fe fu cynnydd yn yr ymholiadau ar gyfer gwersi Conradh na Gaeilge yn Llundain, Paris, Seland Newydd a’r Unol Daleithiau.

Mae Duolingo hefyd wedi adrodd am gynnydd o 17% yn y defnydd o’r ap yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon dros y chwe mis diwethaf, a chynnydd o 25% yn nifer y bobol sy’n astudio’r Wyddeleg ar draws y byd dros y flwyddyn ddiwethaf.

‘Ffilmiau ac iaith yn mynd law yn llaw’

“Mae’r ffilm wedi cydio yn y gynulleidfa ar draws y byd, ac wedi helpu i godi proffil yr iaith,” meddai Aodhán Ó Deá, Cyfarwyddwr Datblygu Conradh na Gaeilge, wrth y Telegraph.

“Fe wnaeth natur ddwyieithog y ffilm wir roi synnwyr o ddilysrwydd, i’r iaith Wyddeleg ac i gynulleidfaoedd rhyngwladol.

“Wrth i’r ffilm fagu coesau’n rhyngwladol, fe welson ni ddigon o sylwebaeth ar-lein gan bobol oedd yn meddwl mai tafodiaith Saesneg oedd yr iaith Wyddeleg tan nawr.

“Wrth gwrs, mae’r gwrthwyneb yn wir, gyda’r Wyddeleg yn un o’r ieithoedd ysgrifenedig mwyaf hanesyddol a hynaf yn y byd.”

Yn ôl Colin Watkins, Cyfarwyddwr Gwlad y Deyrnas Unedig a Ffrainc, fod effaith The Quiet Girl (An Cailín Ciúin) ar ddysgu ieithoedd yn debyg i effaith ffilmiau eraill mewn ieithoedd ar wahân i Saesneg.

“Mae’r cynnydd mewn adloniant ieithoedd tramor mewn diwylliant yn argyhoeddi pobol i roi cynnig ar ddysgu,” meddai.

“Boed yn Squid Game, All Quiet on the Western Front, The Quiet Girl (An Cailín Ciúin), neu anime neu K-pop – rydyn ni’n gweld adloniant sy’n ennill gwobrau a dysgu ieithoedd yn mynd law yn llaw am amser hir i ddod.”

Adfywiad yn yr iaith

Mae’r diddordeb yn The Quiet Girl (An Cailín Ciúin) yn rhan o adfywiad ehangach yn yr iaith Wyddeleg a’i diwylliant, ochr yn ochr ag adfywiad ym myd sinema frodorol Iwerddon.

Ffilm Wyddeleg arall sydd wedi cael cryn sylw’n ddiweddar yw Banshees of Inisherin, a chafodd yr actor Paul Mescal (Aftersun) wedi’i gyfweld yn y Wyddeleg ar y carped coch.

Derbyniodd y ffilm honno naw enwebiad ar gyfer Oscar, gan gynnwys Llun Gorau, Actor Gorau (Colin Farrell), Actores Gynorthwyol Orau (Kerry Condon) ac Actor Cynorthwyol Gorau (Barry Keoghan a Brendon Gleeson).

Yn ôl amcangyfrifon, mae 1.2m o bobol yn siarad Gwyddeleg, tra bod 170,000 ohonyn nhw’n siaradwyr iaith gyntaf, a 98% ohonyn nhw’n byw yn Iwerddon.