Mae cyn-newyddiadurwr y BBC sy’n ceisio ennill ymgeisyddiaeth Llafur ar gyfer etholaeth newydd Canol a De Sir Benfro yn San Steffan yn dweud na “allwch chi ddim rhedeg brand â gwerthoedd gwrth-hiliol a thawelu’r rheiny sy’n beirniadu hiliaeth llywodraeth”.

Daw sylwadau Paul Mason wrth iddo ymateb i helynt Gary Lineker, gafodd ei dynnu oddi ar yr awyr ar ôl beirniadu polisi Suella Braverman, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, a Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, mewn perthynas â mewnfudwyr.

Dywedodd y cyflwynydd fod polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig “ddim yn annhebyg” i bolisi’r Almaen yn y 1930au, ac fe gafodd ei sylwadau eu beirniadu gan y Ceidwadwyr.

Gwrthododd e ymddiheuro, ac fe weithredodd y Gorfforaeth ar eu haddewid i’w dynnu oddi ar yr awyr pe na bai’n fodlon ymddiheuro.

Ond daeth cadarnhad fore heddiw (dydd Llun, Mawrth 13) y bydd cyflwynydd Match of the Day yn dychwelyd i gyflwyno’r rhaglen, yn dilyn trafodaethau â’r BBC.

Mae Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gorfforaeth, yn dweud y bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal ar ganllawiau golygyddol y BBC, ac mae Gary Lineker yn dweud ei fod yn cefnogi hynny.

Yn dilyn ei waharddiad, fe wnaeth nifer fawr o gyflwynwyr, sylwebyddion a phynditiaid gefnogi ei safiad, ac fe fu’n rhaid darlledu rhaglen fer heb sylwebaeth na dadansoddiad o’r stiwdio.

Mae Tim Davie wedi ymddiheuro am y “cyfnod anodd i staff, cyfranwyr, cyflwynwyr ac yn bwysicaf oll, ein cynulleidfaoedd”.

Trydariad

Ar ôl clywed y byddai’n cael dychwelyd i’r awyr, dywedodd Gary Lineker ar Twitter nad yw’r “dyddiau anodd diwethaf yn cymharu â gorfod ffoi o’ch cartref rhag erledigaeth neu ryfel i geisio lloches mewn gwlad ymhell i ffwrdd”.

“Mae’n galonogol gweld yr empathi tuag at eu dioddefaint gan gynifer ohonoch chi,” meddai.

“Rydym yn dal i fod yn wlad llawn pobol oddefgar, groesawgar a hael gan fwyaf.”

Mae’n rhaid i staff y BBC gadw at ganllawiau golygyddol, ond mae amheuon ynghylch sut y dylid gweithredu’r canllawiau yn achos gweithwyr llawrydd fel Gary Lineker, ac yn enwedig y rheiny y tu allan i’r adran newyddion lle mae bod yn ddiduedd ychydig yn llai pwysig.

Ond mae’r BBC yn pwysleisio bod y cyflwynydd wedi cytuno i gadw at y canllawiau tra bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i’r canllawiau.

Dadansoddiad Paul Mason

Mae Paul Mason, sy’n awyddus i sefyll mewn etholaeth newydd sy’n gyfuniad o etholaethau’r Ceidwadwyr blaenllaw Stephen Crabb a Simon Hart, wedi troi at Twitter i gynnig ei ddadansoddiad ei hun o helynt Gary Lineker.

“Mae’n debygol y cafodd ei waharddiad ddydd Gwener ei yrru gan WhatsApps gan Dorïaid blaenllaw i aelodau’r Bwrdd [yn y BBC] – unwaith dechreuodd yr helynt, byddai’n cael ei graffu,” meddai.

“Doedd dim modd i Davie ac ati oroesi ymyrraeth Ian Wright, arweiniodd at streic gan brif dalent… oherwydd fod pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr yn frand gwrth-hiliol – mae’n rhaid i bawb sy’n gysylltiedig â hi boeni am y gwerthoedd hynny.

“Roedd ymyrraeth [Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Rishi] Sunak yn arwydd i Aelodau Seneddol Ceidwadol roi’r gorau i ddefnyddio pwysau anffurfiol ar [Aelod o Fwrdd y BBC, Syr Robbie] Gibb, [y cadeirydd, Richard] Sharp ac ati i ymladd brwydr y bydden nhw’n ei cholli… oherwydd mae gwneud i’r BBC edrych fel darlledwr gwladol yn syniad drwg yng nghanol gwrthdaro Wcráin.

“Ble nawr?

“Mae’n debygol y bydd yr ‘adolygiad’ yn dweud y gall rhai selebs y BBC feddu ar bersonoliaethau ar-lein sy’n seiliedig ar werthoedd a beirniadu’r Llywodraeth.

“Iawn – ond mae’n rhaid i Newyddion, Materion Cyfoes a Ffeithiol barhau’n destun canllawiau didueddrwydd llym.

“Gadewais i’r BBC, nid am fy mod i’n anghytuno â didueddrwydd ond oherwydd doeddwn i ddim eisiau gwneud y math yna o newyddiaduraeth, a doeddwn i ddim eisiau gwthio ffiniau eu rheolau.

“Mae’n cythruddo rhywun o weld rhagfarn gynhenid i’r status quo, a normaleiddio hiliaeth (e.e. QT [Question Time]).

“Yn y pen draw, allwch chi ddim bod yn ddiduedd rhwng y gwir a chelwydd; ac allwch chi ddim rhedeg brand â gwerthoedd gwrth-hiliol a beirniadu’r rheiny sy’n beirniadu hiliaeth llywodraeth.

“Kudos i Gary Lineker, fe safodd i fyny a chyflawni eiliad dyngedfennol yn agweddau’r Deyrnas Unedig at ddefnydd Torïaidd o ieithwedd yr asgell dde eithafol.”

Jason Mohammad yn dal pêl o dan ei fraich yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Jason Mohammad yn gwrthod cyflwyno rhaglen bêl-droed yn sgil helynt Gary Lineker

Y Cymro sy’n cyflwyno’r rhaglen ganlyniadau ‘Final Score’