Mae Jason Mohammad ymhlith y rhai sy’n gwrthod cyflwyno rhaglenni pêl-droed y BBC, ar ôl i Gary Lineker gael ei atal rhag cyflwyno Match of the Day.

Mae’r Cymro ymhlith cyflwynwyr, sylwebyddion a phynditiaid sydd wedi dweud na fyddan nhw’n ymwneud â rhaglenni pêl-droed y Gorfforaeth hyd nes bod Lineker yn cael dychwelyd.

Yn ôl adroddiadau, roedd yr awdurdodau pêl-droed yn barod i beidio gorfodi chwaraewyr i gynnal cyfweliadau chwaith, ond mae’r BBC bellach yn dweud na fydd unrhyw gyfweliadau ar y rhaglen sydd wedi’i chwtogi i ddangos uchafbwyntiau yn unig, heb ddadansoddiad o’r stiwdio.

Mae’r cyn-chwaraewr Gary Lineker dan y lach ar ôl bod yn trydar ei wrthwynebiad i bolisïau Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.

Dywed y BBC na fydd e ar yr awyr wrth iddyn nhw gynnal trafodaethau ynghylch ei safbwyntiau a’i gyfrifoldebau fel un sy’n cyflwyno un o raglenni mwya’r Gorfforaeth.

Yn sgil y sefyllfa, dywedodd nifer o wynebau mwyaf cyfarwydd y rhaglen, gan gynnwys y pynditiaid Ian Wright ac Alan Shearer, eu bod nhw am ddangos “solidariaeth” i’r cyflwynydd.

Yn eu plith mae’r Cymro Jason Mohammad, sydd wedi cadarnhau na fydd yn cyflwyno Final Score, rhaglen ganlyniadau’r BBC ar brynhawn dydd Sadwrn.

Mae’r rhaglen bellach wedi cael ei thynnu oddi ar yr awyr, a bydd The Repair Shop yn cael ei dangos yn ei lle, a Bargain Hunt yn cael ei darlledu yn lle Football Focus.

“Bore da bawb,” meddai.

“Fel y gwyddoch chi, mae Final Score yn yn rhaglen deledu sy’n agos iawn at fy nghalon.

“Fodd bynnag, dw i wedi hysbysu’r BBC fore heddiw na fydda i’n cyflwyno’r sioe y prynhawn yma ar BBC 1.”

Doedd Football Focus, rhaglen ragflas cyn gemau dydd Sadwrn, ddim ar yr awyr heddiw ar ôl i Alex Scott gyhoeddi na fyddai hi’n cyflwyno’r rhaglen.

Datganiadau y sylwebyddion

Neithiwr (nos Wener, Mawrth 10), cyhoeddodd nifer o sylwebyddion ddatganiad ar y cyd yn dweud na fydden nhw’n cymryd rhan yn y rhaglen.

“Fel sylwebyddion ar MOTD, rydym wedi penderfynu camu i ffwrdd o’r darllediad nos fory,” meddai’r datganiad.

“Cawn ein cysuro gan y ffaith y dylai cefnogwyr pêl-droed sydd eisiau gwylio’u tîm fod yn gallu gwneud hynny o hyd, gan fod modd i reolwyr ddefnyddio sylwebaeth World Feed os ydyn nhw’n dymuno.

“Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau, dydyn ni ddim yn teimlo y byddai’n briodol cymryd rhan yn y rhaglen.”

Ymhlith y rhai sydd wedi rhannu’r datganiad mae Steve Wilson, un o’r ddau brif sylwebydd ar y rhaglen.

‘Solidariaeth’

Un arall o Gymru sy’n dweud na fydd e’n cymryd rhan yn Final Score yw Marc Webber.

“Dw i ddim yn gweithio ar BBC Final Score heddiw. Dyma pam,” meddai ar Twitter, cyn cyhoeddi datganiad.

“Rydym oll yn caru’r BBC ac yn falch o weithio i’r fath ddarlledwr gwych.

“Yn bwysicach, rydym yn ei ystyried yn fraint fawr i ddiweddaru pobol ar bêl-droed ar ddydd Sadwrn am 3 o’r gloch.

“Roedd llawer o waith eisoes wedi mynd i mewn i raglen heddiw.

“Mae nifer ohonom yn llawrydd, ac ond yn cael ein talu fesul gêm.

“Rydym wedi aberthu cyflog heddiw.

“Ond alla i ddim sefyll ar y cyrion a gweld cydweithiwr heb gefnogaeth fel hyn am farn bersonol nad oedd yn torri Canllawiau Golygyddol y BBC.

“Byddwch yn garedig plis wrth gydweithwyr BBC Sport fydd yn dal i weithio gan na fydd ganddyn nhw’r un moethusrwydd ag sydd gennym ni.”

Beth ddywedodd Gary Lineker?

Daw’r helynt ar ôl i Gary Lineker gymharu ieithwedd Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig â ieithwedd y Natsïaid yn yr Almaen yn y 1930au.

Roedd yn trafod cynlluniau’r Llywodraeth i atal ffoaduriaid rhag cyrraedd glannau gwledydd Prydain ar gychod, gan wrthod yr awgrym fod yna “fewnlifiad” o bobol o dramor.

Dywedodd fod y polisi’n “annychmygadwy o greulon, wedi’i anelu at y bobol fwyaf bregus, mewn iaith nad yw’n annhebyg i honno gafodd ei defnyddio yn yr Almaen yn y 1930au”.

Dywedodd y BBC na fyddai’n cyflwyno’r rhaglen hyd nes bod y ddwy ochr yn “cytuno ar safbwynt clir” ar ei ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, mae’r cam yn un “cymesur” ar ôl “trafodaethau adeiladol iawn”, ac mae’n dweud ei fod yn “parchu” safiad cydweithwyr Gary Lineker.

Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol yn galw ar y BBC i gynnal ymchwiliad i sylwadau Gary Lineker, yn ogystal ag ymddiheuriad llawn gan y cyflwynydd.

Er bod y cyflwynydd yn gweithio’n llawrydd i’r BBC, mae canllawiau’r Gorfforaeth yn mynnu bod rhaid i unrhyw un sy’n cael ei gyflogi ganddyn nhw ddilyn eu polisïau.

Fe yw’r cyflwynydd sy’n ennill y cyflog mwyaf, a hynny ers pum mlynedd.

Cafodd e gyflog dros £1.35m yn 2021-22 am gyflwyno’r rhaglen a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC.