Mae un o sêr disglair ifanc y byd para-athletau fu’n helpu i lansio gwyl newydd yn Abertawe yr wythnos ddiwethaf yn dweud bod Gemau Paralympaidd 2012 wedi’i ysbrydoli yntau i roi cynnig arni.

Mae Michael Jenkins, sy’n 17 oed ac yn gyn-ddisgybl Ysgol y Preseli, eisoes yn creu argraff fel taflwr pwysau, disgen a gwaywffon, gan daflu pellter fyddai’n cymharu’n ffafriol â nifer o bara-athletwyr Paralympaidd presennol.

Fis Mehefin y llynedd, fe fu’n taflu’r ddisgen yn Paris, gan dorri’r record Ewropeaidd gan saith metr cyn dychwelyd ddeuddydd yn ddiweddarach i gystadlu ym Mhencampwriaethau Cymru yng Nghaerdydd a thorri ei record Ewropeaidd yn ogystal â’r record byd ddeng mlwydd oed yn y ddisgen F38.

Roedd ei dafliad o 55.92m fwy na thri metr ymhellach na record flaenorol Javad Hardani o Iran yng Ngemau Paralympaidd 2012 yn Llundain.

Ac yntau eisoes ar ei ffordd tua’r sêr, does dim nenfwd i’r hyn y gallai’r Cymro ei gyflawni yn y byd para-athletau.

“Os wyt ti’n caru beth wyt ti’n gwneud, wel the sky is the limit,” meddai wrth golwg360.

“Wnes i dorri’r European record yn Ffrainc, oedd yn ffenomenal. O’n i ddim yn disgwyl i unrhyw beth fel’na ddigwydd.

“Wedyn wnes i ddod ’nôl i Gaerdydd ac roedd cystadleuaeth ddau ddiwrnod ar ôl i fi ddod ’nôl a fynna wnes i dorri’r record byd am y tro cyntaf.

“Roedd Aled [Siôn Davies] yna hefyd, ac roedd hwnna’n amazing oherwydd roedd un o role models fi yna’n gwylio! Roedd e’n swreal.

“Mae e’n un o’r bobol sydd wedi rhoi’r mwyaf o gefnogaeth i fi, drwy’r amser mae e wedi bod yn gwthio fi i wneud fy ngorau a dangos y ffordd i fi.

“Mae’n bwysig iawn [cael model rôl]. I fi, mae e’n rhoi rhywbeth i wthio fi ato, mae e’n rhoi cymhelliant i bobol drio rhywbeth newydd a gwthio’u hunain i fod y person gorau maen nhw’n gallu bod.”

Gŵyl Para-chwaraeon Abertawe

Bydd Gŵyl Para-chwaraeon Abertawe’n gyfle i bobol ifanc sydd eisiau dilyn yn ôl troed Michael Jenkins roi cynnig ar lu o wahanol gampau, a chyngor Michael Jenkins iddyn nhw yw “trial popeth, dych chi byth yn gwybod beth fyddwch chi’n caru”.

Bydd yr ŵyl, yr ail o’i math yn Abertawe, yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 10-16, a’i bwriad yw ysbrydoli ac annog pobol o bob oed a gallu i roi cynnig ar bara-chwaraeon a’i wylio.

Ymhlith y cyrff sy’n cefnogi’r digwyddiad gan Chwaraeon Anabledd Cymru mae Golff Cymru, Tenis Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Gymnasteg Cymru a Chymdeithas Pêl-fasged Cadair Olwyn Cymru, ac mae pob un o’r campau fu’n rhan o’r ŵyl gyntaf yn dweud iddyn nhw dderbyn mwy o ymholiadau yn dilyn y digwyddiad nag erioed o’r blaen.

Bydd mwy fyth o gampau’n cael eu cynnig eleni, gyda’r digwyddiadau’n ymestyn dros gyfleusterau chwaraeon Prifysgol Abertawe ar Heol y Mwmbwls hyd at Glwb Golff Bae Langland ar gyrion Penrhyn Gŵyr.

Ymhlith y campau fydd ar gael i’r cyhoedd eleni mae rhwyfo dan do, rygbi cadair olwyn, gymnasteg, tenis bwrdd a saethu targed, a bydd nwyddau arbennig ar gael i bawb sy’n rhoi cynnig arni.

Yn rhan o’r ŵyl fydd Pencampwriaeth Para-golff Agored Cymru, Pencampwriaeth Tîm Boccia y Deyrnas Unedig, Pencampwriaeth Para-ffensio Prydain a Phencampwriaeth Para-saethu Targed Cymru.

Yn ogystal, fe fydd yna gêm Bêl-droed Fyddar ryngwladol rhwng Cymru a’r Alban, Pencampwriaeth Agored Rygbi Cadair Olwyn Cymru, Cyfres Para-triathlon Cymru ac IRONMAN 70.3 i gyd yn cael eu cynnal o fewn cyffiniau Abertawe.

‘Hanfodol’

Yn ôl Michael Jenkins, mae digwyddiadau fel Gŵyl Para-chwaraeon Abertawe’n “hanfodol” i ennyn diddordeb cystadleuwyr y dyfodol.

“Fi’n meddwl bod e’n bwysig iawn. Pryd o’n i’n fach, roedd event fel hyn adref wedi cael fi mewn i chwaraeon felly mae e’n vital, a bod yn onest,” meddai.

“Ro’n i wedi gwylio’r Gemau Paralympaidd yn 2012. Wnes i wylio Aled Siôn Davies ac roedd e wedi gwneud i fi eisiau trio fe.

“Yn Ysgol Gynradd Arberth, ro’n nhw wedi dechrau gwneud taflu pwysau yn yr ysgol, ro’n i wedi dechrau ac wedi’i garu fe.”

Ac yntau wedi cael blas ar gystadlu, fe ddaeth i gysylltiad yn fuan â phrif hyfforddwr campau taflu Cymru, un a fu’n allweddol yn natblygiad ei arwr ei hun.

“Cwpwl o fisoedd ar ôl i fi ddechrau taflu pwysau, ro’n i wedi mynd i gystadleuaeth yng Nghaerdydd, ac roedd Ryan Spencer Jones yna,” meddai.

“Wrth glywed bo fi ag anabledd, roedd e eisiau hyfforddi fi straight away, rili.

“Unwaith yr wythnos, ro’n i lan yng Nghaerdydd wedyn yn dechrau hyfforddi.”

‘Cael hwyl’

Wrth ddweud bod nifer sylweddol o bobol sydd ag anableddau yn profi rhyw fath o salwch iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod eu bywydau, mae Michael Jenkins yn pwysleisio pwysigrwydd “cael hwyl” wrth roi cynnig ar bara-chwaraeon.

“Gyda mental health, dw i’n credu bod llawer o bobol sydd ag anabledd yn stryglo tamaid bach,” meddai.

“A jyst cael rhywle i adael popeth allan yna, ti ddim yn gallu meddwl amdano fe, ti jyst yn mwynhau.

“Dw i’n credu’i fod e’n bwysig iawn i bawb sy’n stryglo gydag unrhyw beth i drial gwneud rhyw fath o chwaraeon.”

Yn hynny o beth, bydd yr ŵyl yn Abertawe’n gymorth a chyfle mawr i blant sydd eisiau cystadlu yn y dyfodol.

“Dw i’n meddwl bod pob un o’r plant sydd yma’n mynd i drial rhywbeth newydd, yn mynd adref a dweud wrth eu rhieni bo nhw eisiau trial cystadlu a hyfforddi. Mae e’n amazing.”

A beth yw ei gyngor iddyn nhw?

“Trial popeth! Dych chi byth yn gwybod beth fyddwch chi’n caru.

“A chael hwyl, it doesn’t matter.”

Darllenwch ragor yng nghylchgrawn golwg yr wythnos hon.

Beth Munro

Gŵyl Para-chwaraeon yn dychwelyd i Fae Abertawe

Bydd sesiynau arbennig yn galluogi’r cyhoedd i roi cynnig ar rai o’r campau