Mae chwaraewyr a sylwebyddion pêl-droed Cymru wedi bod yn talu teyrnged i Jonny Williams, chwaraewr canol cae Cymru, yn dilyn ei ymddeoliad o’r llwyfan rhyngwladol.

Bu’n rhan o garfan Cymru ers deng mlynedd, gan ennill 33 o gapiau a sgorio dwy gôl.

Roedd yn rhan o’r garfan gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Ewro 2016, ac roedd hefyd yno ar gyfer Ewro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Daw hyn yn dilyn ymddeoliad Gareth Bale, Joe Allen a Chris Gunter yn ddiweddar.

‘Diolchgar am byth’

“Dw i wedi penderfynu bod yr amser yn iawn i mi gamu yn ôl ac ymddeol o bêl-droed rhyngwladol,” meddai Jonny Williams mewn datganiad yn cyhoeddi ei ymddeoliad.

“Er pan o’n i’n bymtheg oed, mae wedi bod yn fraint ac anrhydedd gwisgo’r Ddraig Goch ar fy nghrys.

“Dw i wedi cael y pleser o chwarae gyda chymaint o chwaraewyr a phobol grêt dros y blynyddoedd.

“Gyda’r awyrgylch rhwng chwaraewyr, staff a chefnogwyr, fe greon ni un teulu mawr a chael llwyddiant anhygoel.

“Roedd mynd i Bencampwriaeth Ewrop ddwywaith a Chwpan y Byd tu hwnt i fy mreuddwydion, ond fe wnaed hynny’n bosib gyda’n gilydd.

“Fe fydda i’n ddiolchgar am byth am y cyfleoedd ges i gan Osian Roberts a Brian Flynn yn y timau ieuenctid, ac i Gary Speed, Chris Coleman, Ryan Giggs a Rob Page gyda’r tîm cyntaf.

“Yn olaf, diolch i chi gefnogwyr Cymru am aros gyda mi o’r dechrau.

“Fe wnaethoch chi fy nghroesawu i’r teulu ac rydyn ni wedi rhannu cymaint o atgofion arbennig ers hynny.

“Roedd clywed fy enw yn cael ei ganu gan gymaint o gefnogwyr Cymru yn golygu popeth i mi.”

‘Y fath ddylanwad’

“Y fath ddylanwad gest ti ar bêl-droed Cymru,” meddai Osian Roberts, cyn is-reolwr Cymru, mewn neges wedi’i chyfeirio’n bersonol at Jonny Williams.

“Wedi cael dy recriwtio gan Gus Williams, gyrhaeddaist yn fachgen dan 14 Crystal Palace mewn gêm fwdlyd ar gae Casnewydd, a thra bod pawb yn ymdrechu fe wnest ti ehedeg, a gwnes i ddisgyn mewn cariad â dy ffordd o chwarae’r gêm.

“Roedd dy genhedlaeth Victory Shield ’93 gan gynnwys Ben & Wardy a sawl un arall yn dyngedfennol ac roedd eich gweld chi i gyd yn dechrau yn erbyn Slofacia mor arbennig i bawb helpodd yn y blynyddoedd datblygiadol hynny.

“Yng ngêm hanesyddol Slofacia, fe wnest ti chwarae fel naw ffug!

“Yn bwysicaf oll, roeddet ti’n rhan o’r ‘glud Cymreig’ oddi ar y cae, yn chwaraewr tîm ‘go iawn’, gyda theulu a thad balch, Peter o Borthaethwy.

“Da iawn!”

Innings gwych Joniesta’

“Chwaraewr bachgwychphawb yn ei garu!” meddai Neil Taylor, cyn-gefnwr chwith Cymru, fu’n cyd-chwarae â Jonny Williams dros Gymru.

“Boi neis iawn.

“Dyma fi yn dangos iddo gymaint roeddwn i’n ei hoffi.

Innings gwych joniesta.”

‘Gôl fuddugol oedd yn golygu cymaint’

Mae Phil Blanche, gohebydd chwaraeon Press Association sy’n gohebu ar bêl-droed Cymru, wedi tynnu sylw at gôl ryngwladol gyntaf Jonny Williams, a honno yn erbyn Bwlgaria yn 2020, gan sicrhau bod y tîm yn dychwelyd i frig eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

“Pa mor dda oedd y foment hon?” meddai.

“Enillydd ym Mwlgaria oedd yn golygu cymaint i Jonny Williams.

“Bydd ‘Joniesta’ bob amser â lle arbennig yng nghalonnau cefnogwyr Cymru, yn fedrus ac yn ymroddedig – a diolch am ennill y gic rydd honno yn Bordeaux. #DiolchJonny.”