Bydd yr Ŵyl Para-chwaraeon yn dychwelyd i Fae Abertawe ym mis Gorffennaf, gyda sesiynau blasu newydd a chyfres o gystadlaethau – gan gynnwys para-golff, pêl-droed fyddar, rygbi cadair olwyn, para-ffensio a saethu targed.
Cafodd yr ŵyl ei lansio yn Abertawe ddoe (dydd Gwener, Mawrth 10), wrth i fanylion wythnos o weithgareddau gael eu datgelu.
Bydd yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 10-16, gyda’r nod o ysbrydoli ac annog pobol o bob oed a gallu i gymryd rhan ac i wylio para-chwaraeon a champau anabledd.
Roedd y digwyddiad cyntaf o’i fath yn llwyddiant ysgubol y llynedd, gyda chyrff y campau amrywiol yn dod ynghyd ac yn adrodd am gynnydd mawr mewn diddordeb yn eu campau unigol yn dilyn yr ŵyl.
Mwy o gystadlaethau o safon genedlaethol
Eleni, mae’r trefnwyr yn addo rhaglen o gystadlaethau o safon genedlaethol a mwy o gyfleoedd i’r cyhoedd gymryd rhan yn y digwyddiadau, naill wrth wylio neu roi cynnig ar y campau.
Bydd yn dechrau ar Orffennaf 10 gyda Thwrnament Para-golff Agored yng Nghlwb Golff Bae Langland.
Un o ddiwrnodau mwya’r wythnos fydd dydd Mawrth, Gorffennaf 11, pan fydd cyfres arbennig ar drac athletau dan do Prifysgol Abertawe.
Y llynedd, daeth dros 200 o bobol ynghyd oedd erioed wedi rhoi cynnig ar fwy nag ugain o gampau para-chwaraeon, gyda phob sesiwn dan arweiniad un o’r cyrff llywodraethu a hyfforddwyr cymwys.
Ymhlith y campau y bydd modd i’r cyhoedd roi cynnig arnyn nhw mae para-rwyfo, rygbi cadair olwyn, gymnasteg, tenis bwrdd a saethu targed, a bydd pob un sy’n rhoi cynnig ar un o’r campau’n cael mynd â nwyddau adref gyda nhw.
Mae’n rhaid cofrestru ymlaen llaw er mwyn cymryd rhan.
Ar Orffennaf 12 a 13, fe fydd Pencampwriaeth Boccia y Deyrnas Unedig yn cael ei chynnal, a hithau’n dwrnament newydd arbennig i Abertawe.
Mae David Smith, un o sêr y gamp, yn byw yn Abertawe ac yntau’n hanu o’r ddinas.
Mae’n enillydd aur yn y Gemau Paralympaidd ac yn rhif un yn y byd yn ei gamp.
Bydd Pencampwriaeth Para-ffensio Prydain yn cael ei chynnal ar Orffennaf 14, ynghyd â Phencampwriaeth Saethu Targed Agored Cymru, a bydd gêm bêl-droed fyddar rhwng Cymru a’r Alban ar y diwrnod hwnnw hefyd.
Bydd Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Agored Cymru ar Orffennaf 15, gyda’r cystadlaethau para-ffensio a saethu targed yn dod i ben ar Orffennaf 15 ac 16.
Ar Orffennaf 15 hefyd, fe fydd Cyfres Para-triathlon y Byd gydag IRONMAN 70.3 yn dod â’r wythnos i ben ar Orffennaf 16.
Sêr y campau
Ymhlith y sêr fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad mae Harrison Walsh, Kyron Bishop, Michael Jenkins, James Ledger a Beth Munro.
Enillodd Beth Munro fedal arian yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo, ddwy flynedd yn unig ar ôl iddi ddechrau cystadlu ym myd taekwondo.
Yn enedigol o Lerpwl, daeth ei chyfle i fentro i’r byd para-chwaraeon wrth iddi fynd i ddigwyddiad gafodd ei drefnu gan Chwaraeon Anabledd Cymru yn Wrecsam.
“Ro’n i’n falch o fod yn lansiad yr Ŵyl Para-chwaraeon gyntaf erioed y llynedd, a dw i wrth fy modd o gael bod yn ôl yn Abertawe i helpu i hyrwyddo’r digwyddiad eleni,” meddai.
“Roedd Gŵyl Para-chwaraeon 2022 yn llwyddiannus dros ben, yn nhermau lefel uchel y cystadlaethau twrnament a faint o bobol o bob oed a gallu ddaeth i roi cynnig ar chwaraeon am y tro cyntaf erioed.
“Roedd hi’n hyfryd gweld pobol yn rhoi cynnig ar gampau oedd yn newydd sbon iddyn nhw, oherwydd dw i’n gwybod faint mae mynd allan i ddigwyddiad fel yr Ŵyl Para-chwaraeon yn gallu newid eich bywyd.
“Es i o fynd i ddigwyddiad Cyfres insport Chwaraeon Anabledd Cymru yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf, i gael fy nghyflwyno i taekwondo a mynd ymlaen i ennill medal arian yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo – a’r cyfan oll o fewn dwy flynedd!
“Mae breuddwydion yn dod yn wir, a does dim byd yn amhosib. Ac mae gen i’r fedal i brofi hynny!”
‘Cyfle i arddangos arbenigedd’
Yn ôl Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog Chwaraeon Cymru, bydd yr ŵyl yn gyfle i Abertawe “arddangos ei harbenigedd mewn cynnal digwyddiad para-chwaraeon mawr yn llwyddiannus – yn dilyn ymlaen o’r digwyddiad llwyddiannus y llynedd”.
“Mae hyn yn ategu ein hymrwymiad i ddatblygu chwaraeon anabledd a chynnig llwyfan pellach i hyrwyddo cyfleoedd chwaraeon ar gyfer pobol ag anableddau,” meddai.
Un arall sy’n croesawu’r digwyddiad i Abertawe yw Robert Francis-Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Abertawe.
“Maen nhw’n addo bod yn ddiwrnodau cofiadwy a chyffrous i athletwyr, gwylwyr, timau cynorthwyol, ein cymunedau lleol a’r rheiny sy’n rhoi cynnig ar ambell weithgaredd am y tro cyntaf,” meddai.
“Bydd Gŵyl Para-chwaraeon 2023, ynghyd â Chyfres Para-triathlon y Byd Abertawe ac IRONMAN 70.3, yn ategu enw da’r ddinas fel dinas chwaraeon groesawgar ac amrywiol sy’n gallu cynnal digwyddiadau mawr.
“Byddwn yn parhau i gydweithio â threfnwyr y digwyddiad i sicrhau bod gan bobol a busnesau lleol bob cyfle i gynllunio ac i fwynhau’r digwyddiadau eithriadol hyn.”
Darllenwch ragor yng nghylchgrawn golwg yr wythnos hon.