Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn awyddus i’w dîm adeiladu ar y perfformiad yn yr ail hanner yn erbyn Luton, wrth iddyn nhw groesawu Middlesbrough i Stadiwm Swansea.com ddydd Sadwrn (Mawrth 10).

Mae’r ymwelwyr wedi codi o’r unfed safle ar hugain i’r trydydd safle ers i’w rheolwr Michael Carrick gael ei benodi, ac maen nhw bellach yn llygadu dyrchafiad awtomatig.

Dylai’r Elyrch fod wedi cipio pwynt oddi cartref yn Luton, ac mae Russell Martin yn galw am ddeallusrwydd gan ei chwaraewyr.

“Y chwaraewyr sy’n llwyddo yw’r rhai sydd fwyaf gwydn, y chwaraewyr sy’n gwneud camgymeriad ac sy’n gallu anghofio amdano a pharhau i chwarae heb ei fod yn eu heffeithio nhw, y chwaraewyr sy’n methu ac sy’n fodlon taro’n ôl a bod yr un fath eto,” meddai.

“Roedden ni’n egnïol yn sgil yr ail hanner yn Luton, a’r ffordd rydyn ni wedi myfyrio arno ac wedi ei drafod fel tîm, fel unigolion ac fel unedau.

“Fe wnaethon ni gymryd cryn dipyn o hynny, roedd yn gam i’r cyfeiriad cywir yn nhermau’r dwyster, egni a dewrder wnaethon ni ei ddangos.”

‘Dal i gredu’

Yn ôl Russell Martin, bydd aros yn bositif yn allweddol ar gyfer gweddill y tymor.

“Mae angen i ni aros yn ddewr, aros yn bositif a dal i gredu yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud,” meddai.

“Os gwnawn ni hynny, byddwn ni’n iawn.

“Weithiau, mae angen sbarc arnoch chi neu ganlyniad nad oes neb yn ei ddisgwyl.

“Dw i ddim yn meddwl fod llawer yn disgwyl i ni gael canlyniad [da] y penwythnos hwn, felly mae hwn yn brawf gwych i ni, ac yn gêm wych i wneud hynny.”