Bydd Cwpan Dartiau’r Byd yn dychwelyd ar ei newydd wedd ym mis Mehefin, gyda 40 o wledydd yn cystadlu am arian gwerth £450,000.

Bydd gemau grŵp i ddechrau, gyda gemau dyblau drwy gydol y gystadleuaeth dros bedwar diwrnod.

Bydd dau chwaraewr ym mhob tîm yn y twrnament sy’n cael ei gynnal yn Frankfurt yn yr Almaen rhwng Mehefin 15-18, wrth i Awstralia amddiffyn eu coron.

Bydd wyth tîm ychwanegol yn cystadlu eleni, gyda Gwlad yr Iâ, Wcráin a Bahrain yn cymhwyso am y tro cyntaf erioed.

Bydd y pedair gwlad uchaf yn cael eu rhoi ar y rhestr o ddetholion, ac yn dechrau’r twrnament yn yr ail rownd.

Bydd y 36 gwlad arall yn cael eu rhannu i ddeuddeg grŵp o dri, gyda phawb yn herio’i gilydd yn y rownd gyntaf, gan gynnwys deuddeg o ddetholion – a’r tîm ar frig pob grŵp yn mynd drwodd.

Bydd y gemau grŵp yn cael eu cynnal ar Fehefin 15 ac 16.

Bydd yr ail rownd, yn cynnwys 16 o wledydd, yn cael ei hollti dros ddwy sesiwn ar Fehefin 17, gyda’r rownd wyth olaf y diwrnod canlynol (dydd Sul, Mehefin 18), a’r rownd gyn-derfynol a’r rownd derfynol yn y nos.

Bydd y pencampwyr yn ennill £80,000.

Dim ond gemau dyblau fydd yn cael eu cynnal eleni, yn hytrach na’r cyfuniad arferol o senglau a dyblau.

Yn ôl corff llywodraethu’r PDC, bydd y fformat newydd yn “ychwanegu at y cyffro”, yn golygu bod pob gwlad yn chwarae o leiaf ddwy gêm yr un gan roi mwy o lwyfan iddyn nhw, ac yn eu galluogi nhw i gyflwyno gwledydd newydd i’r twrnament gan ehangu apêl y gamp ar draws y byd.

Maen nhw hefyd wedi rhoi mwy o bwyslais ar y dyblau er mwyn adlewyrchu twf y fformat yn y byd dartiau, meddai’r PDC.

Bydd rownd gymhwyso ar gyfer America Ladin yn cael ei chynnal rhwng Mai 12-14, a rownd gymhwyso Portiwgal ar Ebrill 1 i ddewis partner ar gyfer Jose de Sousa.

Bydd timau sy’n cynnwys chwaraewyr blaenllaw ac uchel ar y rhestr o ddetholion yn cael eu cyhoeddi ar Fai 29, gyda dau chwaraewr gorau’r wlad yn cael eu gwahodd i gynrychioli eu gwlad.

Bydd timau sy’n cynnwys cymhwyswyr yn Asia yn cael eu cyhoeddi ar Fai 1, a gwledydd Sgandinafia a gwledydd y Baltic yn gorfod cyhoeddi eu timau erbyn Mehefin 5.

Y timau fydd yn cystadlu eleni yw:

Awstralia, Awstria, Bahrain, Gwlad Belg, Canada, Tsieina, Croatia, Gweriniaeth Tsiec, Denmarc, Lloegr, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Gibraltar, Hong Kong, Hwngari, Gwlad yr Iâ, India, yr Eidal, Japan, Latfia, Lithwania, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Gogledd Iwerddon, y Ffilipinas, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Gweriniaeth Iwerddon, yr Alban, Singapôr, De Affrica, Sbaen, Sweden, y Swistir, Gwlad Thai, Wcráin, yr Unol Daleithiau, Cymru a’r wlad sy’n cymhwyso o America Ladin.

Am y gorau i ennill saith gêm fydd yn ennill pob gêm grŵp, am y gorau i 15 fydd hi yn yr ail rownd, rownd yr wyth olaf a’r rownd gyn-derfynol, ac am y gorau i 19 yn y rownd derfynol.