Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr rygbi Cymru, wedi enwi ei dîm i herio’r Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Rhufain ddydd Sadwrn (Mawrth 11).

Mae’r tîm heb fuddugoliaeth yn y twrnament hyd yn hyn eleni, ers i Gatland ddychwelyd i’r swydd yn dilyn diswyddo Wayne Pivac ar ôl 2022 siomedig.

Bydd y mewnwr Rhys Webb yn dechrau gêm am y tro cyntaf yn 2023, gyda’r maswr Owen Williams yn gwmni iddo ymhlith yr haneri.

Rio Dyer a Josh Adams fydd ar yr esgyll, gyda Liam Williams yn dychwelyd i safle’r cefnwr, a’r canolwyr Mason Grady a Joe Hawkins yn parhau â’u partneriaeth yng nghanol cae.

Mae’r prop Wyn Jones yn dychwelyd i’r rheng flaen, gyda’r capten Ken Owens a’r prop arall Tomas Francis yn cwblhau’r triawd.

Mae Dafydd Jenkins yn dechrau ei ail gêm dros ei wlad, ac fe fydd yn bartner i Adam Beard yn yr ail reng.

Yn y rheng ôl mae Jac Morgan, Justin Tipuric a Taulupe Faletau.

Ar y fainc mae Scott Baldwin, Gareth Thomas, Dillon Lewis, Rhys Davies, Tommy Reffell, Tomos Williams, George North a Louis Rees-Zammit.

Yn ôl Warren Gatland, bydd cadw meddiant yn hollbwysig yn erbyn yr Eidalwyr wrth i Gymru geisio taro’n ôl ar ôl dechrau digon siomedig yn y twrnament.

Mae’n cydnabod nad yw’r sefyllfa oddi ar y cae wedi bod o gymorth i’r tîm wrth iddyn nhw baratoi, ond nad oes yna “ddim esgusodion” chwaith.

Tîm Cymru:

L Williams, J Adams, M Grady, J Hawkins, R Dyer, O Williams, R Webb; W Jones, K Owens (capten), T Francis, A Beard, D Jenkins, J Morgan, J Tipuric, T Faletau.

Eilyddion:

S Baldwin, G Thomas, D Lewis, R Davies, T Reffell, T Williams, G North, L Rees-Zammit