Mae Chris Gunter, cefnwr tîm pêl-droed Cymru, wedi ymddeol o gemau pêl-droed rhyngwladol yn 33 oed.
Chwaraeodd e 109 o weithiau dros Gymru, a bu’n rhan o’r garfan gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Ewro 2016, carfan Ewro 2020 a charfan Cwpan y Byd 2022.
Yn 2017, cafodd ei enwi’n Chwaraewr Pêl-droed Cymru y Flwyddyn.
Fe gurodd record Neville Southall o 92 o gapiau dros Gymru yn 2018, ac yn 2021 fe oedd y Cymro cyntaf i ennill 100 o gapiau.
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd y bu’n “fraint” cynrychioli Cymru ers pymtheg mlynedd.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn ymddeoliad Gareth Bale a Joe Allen yn ddiweddar.
‘Diolch mwyaf’ i’r cefnogwyr
“Dw i wedi cael y fraint o gynrychioli ein gwlad anhygoel ers pymtheg mlynedd, ac mae wedi rhoi rhai o amseroedd gorau fy ngyrfa a fy mywyd i mi,” meddai Chris Gunter mewn datganiad ar Twitter.
“I’r holl reolwyr rydw i wedi chwarae oddi tanyn nhw, a’r holl staff sydd wedi fy helpu mewn llawer o wahanol ffyrdd, mae gen i gymaint o werthfawrogiad ac mae angen i mi ddweud diolch yn fawr.
“Dw i bob tro wedi dweud, pan allwch chi rannu amseroedd nid yn unig gyda chyd-chwaraewyr ond gyda ffrindiau, mae hyd yn oed yn fwy arbennig, ac rydw i wedi bod mor ffodus i rannu’r ystafell newid gyda phobol sy’n ffrindiau oes.
“Yn blentyn ifanc yn tyfu i fyny yng Nghymru, y freuddwyd oedd chwarae a gwisgo’r crys coch hwnnw.
“Yr hyn na freuddwydiais amdano, hyd yn oed, oedd yr atgofion a’r profiadau mae wedi’u rhoi i mi a fy nheulu, sydd wedi’i wneud yn bosibl gennych chi, y cefnogwyr.
“Dw i wedi ceisio dweud wrthych sawl gwaith faint rydych chi wedi helpu, er ei bod yn anodd dod o hyd i’r geiriau i’w fynegi.
“Felly wna i ddweud y diolch mwyaf, a byddaf yn eich gweld yn fuan.
“Rydyn ni mewn lle gwych gyda’r staff a’r garfan yma, gyda llwyth i edrych ymlaen ato. Gunts.”
We’re glad you crossed that ball ❤️🏴
Diolch am bopeth @Chrisgunter16 #DiolchChris https://t.co/F4H46uyIpq
— Wales 🏴 (@Cymru) March 9, 2023
Rhan o ‘gyfnod euraidd’ y garfan
Yn ôl y cyflwynydd chwaraeon Dylan Ebenezer, roedd ymddeoliad Chris Gunter i’w ddisgwyl, ond mae diolch mawr iddo am ei ran yn y garfan.
“Mae diolch enfawr iddo, i fod yn deg,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n rhyfedd achos rydyn ni wedi clywed am Bale a Joe Allen yn ddiweddar, ac i fi, dydy e ddim yn dod yn agos o ran safon y chwaraewyr, ond fel cymeriad mae e reit lan yna gyda nhw.
“Mae ei gyfraniad e wedi bod yn anhygoel dros y blynyddoedd.
“Mae’n rhan o’r criw sydd wedi dod trwyddo gyda’i gilydd.
“Dyw e ddim yn sioc, achos dyw e ddim wedi bod yn cyfrannu gymaint yn ddiweddar, ond mae e wedi bod yn rhan o gyfnod euraidd ac yn gyswllt rhwng y tîm a’r cefnogwyr.
“Mae e’n deall yr hyn mae’r cefnogwyr yn mynd trwyddo.”
Yn ôl Dylan Ebenezer, un o uchafbwyntiau gyrfa Chris Gunter oedd ei groesiad arweiniodd Cymru i fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg, gyda Chris Coleman yn rhegi arno ar yr ystlys i beidio croesi’r bêl.
Ond ymroddiad Chris Gunter a’r berthynas mae wedi’i chynnal gyda chefnogwyr drwy gydol ei yrfa yw un peth sy’n aros gyda’r cyflwynydd.
“Bydd y chin up wnaeth Gunter ar ddiwedd y gêm Lloegr yn yr Ewros yn aros gyda fi am byth, achos roedd pawb mor isel ac roedd e mor boenus,” meddai.
“Ond wnaeth e feddwl mynd at y cefnogwyr i wneud hwnna ac roedd e’n dangos y berthynas sydd gyda fe gyda chefnogwyr a’i fod yn deall sut roedden nhw’n teimlo.
“Mae hwnna’n golygu mwy nag unrhyw beth, y meddylfryd yna.
“Wnaeth e chwarae ym mhob gêm yn yr Ewros yna, chwarae teg iddo.
“Roedd e’n gyson, wastad yna, ac mor ddibynadwy.”