Mae rasio milgwn yn tynnu tua’r terfyn yng Nghymru, yn ôl elusennau anifeiliaid.
Daw eu sylwadau yn dilyn dadl yn y Senedd, lle gwnaeth Aelodau gefnogi’r alwad i ddod â’r gamp i ben yn y wlad.
Yn ystod dadl ddoe (dydd Mercher, Mawrth 8), fe wnaeth nifer o Aelodau’r Senedd gefnogi’r alwad gan elusennau anifeiliaid fel yr Ymddiriedolaeth Cŵn, RSPCA Cymru, Blue Cross, Greyhound Rescue Cymru a Hope Rescue i roi terfyn ar y gamp cyn gynted â phosib er mwyn atal anafiadau a marwolaethau y gellid eu hosgoi.
Ymhlith y gwleidyddion fu’n cefnogi’r alwad mae Jack Sargeant (Llafur), Luke Fletcher (Plaid Cymru) a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol).
Daw eu cefnogaeth ar ôl i Bwyllgor Deisebau’r Senedd gyhoeddi adroddiad, gyda’r rhan fwyaf o’r aelodau’n datgan eu cefnogaeth i ddod â’r gamp i ben yng Nghymru.
‘Y Troad Terfynol’
Yn ôl Jack Sargeant, cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, roedd “tystiolaeth sylweddol o blaid gwaharddiad”.
“Fe wnaethon ni alw ein hadroddiad Y Troad Terfynol gan ein bod ni’n meddwl bod y ‘gamp’ hon ar ei chylchdaith olaf,” meddai.
“Roedd heddiw’n gyfle i drafod y dystiolaeth a dw i’n edrych ymlaen at yr ymgynghoriad sydd i ddod gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cwestiwn am ystyried dirwyn rasio milgwn i ben yn raddol yng Nghymru.
“Dw i’n ddiolchgar iawn i Hope Rescue am gyflwyno’r ddeiseb hon, ac maen nhw wedi gweithio mor galed drwy gydol y broses.
“Dyma enghraifft arall o’r gwahaniaeth gwirioneddol y gall y broses ddeisebau ei wneud.”
Fis Medi y llynedd, fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth Cŵn, Blue Cross a’r RSPCA uno i alw am ddod â rasio milgwn i ben yng Nghymru.
Fe wnaeth yr elusennau, ar y cyd â Greyhound Rescue Cymru a Hope Rescue, rannu eu pryderon am les milgwn rasio bob cam o’u bywydau, ac maen nhw am weld terfyn ar farwolaethau diangen cannoedd o filgwn bob blwyddyn y gellid eu hosgoi.
Y llynedd, daeth arolygon mewnol cynhwysfawr yr Ymddiriedolaeth Cŵn, yr RSPCA a’r Blue Cross o hyd i weithredoedd anhrefnus ac aneffeithiol o fewn y sector milgwn, diffyg tryloywder am arferion y diwydiant, a phryderon ynghylch gweithredu safonau rheoleiddio.
Daeth yr arolygon hyn i’r casgliad hefyd fod rhai cŵn rasio’n cael eu cadw mewn amodau gwael a thruenus heb fawr o faeth ac ar ddiet gwael, ac fe wnaethon nhw godi pryderon am iechyd y cŵn yn gyffredinol.
Mae pryderon hefyd am rasio’r cŵn mewn tywydd garw, a nifer y cŵn bach sy’n cael eu diystyru rhwng genedigaeth a chael eu cofrestru i rasio, ac sy’n aml yn cael eu galw’n “wastraff”.
Ymhellach, tynnodd yr elusennau sylw at beryglon rasio milgwn, sy’n rhedeg yn gyflym iawn mewn cylchoedd ar y trac, gan achosi anafiadau yn aml iawn, gyda’r anafiadau mor ddifrifol mewn rhai achosion nes bod rhaid eu difa.
Bu farw 2,000 o filgwn a chafodd 18,000 eu hanafu wrth rasio rhwng 2018 a 2021, yn ôl Bwrdd Rasio Milgwn Prydain.
‘Mae’n bryd i Gymru dorri’r cysylltiad â rasio milgwn’
Mae trac rasio’r Valley yn Ystrad Mynach yn drac annibynnol, felly dydy e ddim yn cael ei reoli gan Fwrdd Rasio Milgwn Prydain.
Mae hynny’n golygu nad oes cofnod o nifer y cŵn fu farw neu a gafodd eu hanafu ar y trac.
Ond mae elusennau wedi gweld rhai o’r anafiadau sydd wedi’u hachosi.
“Rydym wrth ein boddau o glywed y fath gefnogaeth gref o fewn y Senedd [i’r syniad] y dylai rasio milgwn ddod i ben yng Nghymru,” meddai Owen Sharp, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Cŵn.
“Daw hyn wythnosau’n unig ar ôl i’r Pwyllgor Deisebau gyhoeddi eu cefnogaeth i derfyn ar y gamp, ac mae’n adleisio galwadau miloedd o bobol ledled Cymru.
“Mae’n hollol annerbyniol fod cynifer o gŵn yn cael eu hanafu neu eu lladd bob blwyddyn yn enw adloniant.
“I’r cŵn hynny sy’n ddigon ffodus nad ydyn nhw’n cael eu hanafu’n ddifrifol, mae nifer yn wynebu cael cartref mewn amodau gwael heb fawr o faeth, os o gwbl, a chael eu rasio mewn tywydd eithafol all fod yn niweidiol iawn i’w hiechyd.
“Gobeithio bod Llywodraeth Cymru’n parhau i wrando ar alwadau sefydliadau lles anifeiliaid a miloedd o bobol ledled Cymru ac yn dod â’r diwydiant hwn i ben mor gyflym â phosib.
“Rydym yn parhau’n ymroddedig i gydweithio â’r diwydiant a rhanddeiliaid eraill i sicrhau nad yw lles cŵn sydd ynghlwm wrth rasio ar hyn o bryd yn cael ei beryglu.”
Yn ôl Chris Sherwood, Prif Weithredwr yr RSPCA, mae’n “wych” gweld y ddadl hon yn “tanlinellu maint y gefnogaeth ledled Siambr y Senedd i wella lles milgwn ond hefyd i atal rasio milgwn yn gyfangwbl yng Nghymru”.
“Roedd ymchwiliad y Pwyllgor Deisebau mor bwysig, gan dynnu sylw at y materion lles di-ri sydd ynghlwm wrth rasio milgwn sy’n bodoli o enedigaeth hyd at farwolaeth,” meddai.
“Mae’r gefnogaeth enfawr gan y cyhoedd i’r ddeiseb, a gwaith cynifer o elusennau ar y mater hwn, yn ein hatgoffa ni o’r hyn y gallwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd tros les anifeiliaid.
“Nawr, mae gan Gymru gyfle gwirioneddol i anfon neges, a gwarchod y cŵn hyn rhag y gamp beryglus hon unwaith ac am byth.
“Heb filfeddyg ar y trac, a dim gofyniad i gyhoeddi nifer yr anafiadau na marwolaethau, mae’n anodd amcangyfrif gwir raddfa’r problemau lles yng Nghymru sy’n cael eu hachosi gan rasio milgwn yng Nghymru ar hyn o bryd, ond cyhyd ag y bydd y gamp hon yn parhau, mae cŵn yn cael eu rhoi mewn perygl difrifol diangen o anafiadau poenus a marwolaeth.
“Mae Cymru’n un o ddeg gwlad yn unig yn y byd lle mae rasio milgwn masnachol yn parhau.
“Mae’n bryd i Gymru dorri’r cysylltiad â rasio milgwn, a rhoi’r gamp honedig hon yn y llyfrau hanes.”
‘Diwydiant sy’n marw’
Yn ôl Chris Burghes, Prif Weithredwr Blue Cross, mae’r gefnogaeth drawsbleidiol i wahardd rasio milgwn “yn dangos yn glir bod hwn yn ddiwydiant sy’n marw ac nad oes modd ei amddiffyn yn enw traddodiad na chan addewidion gwag gan y diwydiant i wella lles”.
“Mae Blue Cross yn glir nad oes lle mewn cymdeithas gyfoes i rasio milgwn a’r anafiadau difrifol a marwolaethau sy’n dod yn enw ‘chwaraeon’,” meddai.
“O ganlyniad i’r diffyg tryloywder ac adrodd gan yr unig drac annibynnol yng Nghymru, allwn ni ddim ond dyfalu nifer gwirioneddol y cŵn sy’n dioddef ar y trac ac oddi arno, ac o’r crud i’r bedd.
“Roedden ni’n falch o glywed y gweinidog yn ymrwymo i ymgynghori ar waharddiad, a byddwn yn parhau i amlinellu ein dadleuon ar sail tystiolaeth, fydd yn dangos pam fod rasio milgwn wir wedi cyrraedd y llinell derfyn.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y dystiolaeth gan gyfoeth o arbenigwyr yn y sector lles anifeiliaid, ac mae cyfle unigryw ganddyn nhw yma i benderfynu y bydd craffu’n digwydd yn 2023 er mwyn sicrhau na fydd rhagor o gŵn yn dioddef yn enw adloniant.
“Nawr yw’r amser i dorri’r cysylltiad ac i warchod lles yr holl filgwn sy’n rasio yng Nghymru, drwy ddod â’r gamp i ben.”