Bydd gêm bêl-droed tîm dynion Abertawe yn erbyn Middlesbrough yn Stadiwm Swansea.com ddydd Sadwrn (Mawrth 11) yn cael ei neilltuo i ddathlu gêm y merched hefyd.

Daw hyn yn sgil yr ymgyrch Gêm Hi Hefyd, gafodd ei sefydlu yn 2021 gan griw o gefnogwyr pêl-droed benywaidd gyda’r nod o greu ymdeimlad bod croeso i fenywod yn y gamp ac y bydden nhw’n cael eu parchu hefyd.

Mae’r ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth, a bellach yn cydweithio â nifer o’r 92 o glybiau yn y Gynghrair Bêl-droed, yn ogystal â thimau ar lawr gwlad.

Yn wreiddiol, bwriad yr ymgyrch oedd rhoi sylw i rywiaeth ac agweddau negyddol at fenywod mae cefnogwyr yn dod ar eu traws.

Wrth i’r fideo gydio yn nychymyg pobol, a chael ei gwylio miliwn o weithiau mewn 24 awr, daeth hi’n amlwg fod angen ymgyrch gan fenywod yn targedu agweddau sy’n gwahaniaethu yn erbyn menywod yn y byd pêl-droed.

Roedd Abertawe’n un o’r clybiau cyntaf i gefnogi’r ymgyrch, a daeth hi’n amlwg yn fuan nad oedd cefnogwyr yn ymwybodol fod modd iddyn nhw adrodd am agweddau rhywiaethol mewn gemau pêl-droed yn y stadiwm a chafodd gwybodaeth ddefnyddiol ei harddangos yn y stadiwm o ganlyniad.

‘Ar ben fy nigon’

Un o sylfaenwyr yr ymgyrch yw Amy Clement, un o gefnogwyr yr Elyrch.

“Dw i ar ben fy nigon fod fy nghlwb, Abertawe, wedi dod ynghyd â Gêm Hi Hefyd i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod,” meddai.

“Dylid cydnabod a dathlu staff, chwaraewyr, dyfarnwyr, hyfforddwyr, ffisiotherapyddion a chefnogwyr benywaidd am yr hyn maen nhw’n ei gyfrannu i bêl-droed.

“Cymerwch eiliad heddiw, os gwelwch yn dda, i feddwl am yr holl fenywod anhygoesl sy’n gwneud i Glwb Pêl-droed Abertawe weithio.

“Hoffwn ddiolch i’r clwb am eu cefnogaeth barhaus gyda’n partneriaeth, ac allwn i ddim bod yn fwy balch o gefnogi clwb sydd â’r fath galon dda.

“Mae eu hymrwymiad i wneud y clwb yn gynhwysol yn creu argraff, ac yn rywbeth i’w ddathlu.”