Bydd menywod ifanc o bob rhan o Gymru yn ymweld â’r Senedd heddiw (Mawrth 7), ar ôl cael y cyfle i gysgodi Aelodau’r Senedd ac edrych ar waith mewnol bywyd gwleidyddol Cymru.

Mae Chwarae Teg, elusen cydraddoldeb rhywedd flaenllaw Cymru, yn cynnal prosiect LeadHerShip i fenywod 16-22 oed heddiw (Mawrth 7) er mwyn ysbrydoli cenhedlaeth o fenywod ym maes arweinyddiaeth yn y dyfodol.

Mae rhai o’r merched ifanc sy’n cymryd rhan yn y diwrnod wedi bod yn lleisio eu barn ynglŷn â Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2023. Yma, Carys James o Aberystwyth sy’n trafod effaith diffyg cynrychiolaeth, a’r anghydraddoldeb mae hi wedi’i wynebu ym myd chwaraeon.


Credaf ei bod yn hynod bwysig i ni barhau i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, hyd yn oed yn 2023. Byddai peidio â gwneud hyn yn gwneud anghymwynas â’r menywod a fuodd yn brwydro ac aberthu eu hunain er mwyn i ni gyrraedd y sefyllfa well, ond ddim o bell ffordd yn berffaith, sydd gennym ni heddiw. Mae anghydraddoldeb ar sail rhywedd yn bendant yn parhau i fodoli mewn cymdeithas, ac mae’n bosib adnabod hyn tra hefyd yn ymdrechu er gwell, ac mae dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ein galluogi ni i wneud hyn.

Mae’r sefyllfa o ran cydraddoldeb ym meysydd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yn un sy’n peri pryder i mi, yn enwedig fel merch ifanc sy’n gorfod wynebu’r problemau yma wrth i mi dyfu fyny. Mae’r diffyg cynrychiolaeth yn yr holl agweddau yma yn gwneud i mi deimlo fel nad oes nifer o opsiynau na chyfleoedd i mi, ac mae’n bwysig iawn i mi ein bod ni’n codi ymwybyddiaeth dros y sefyllfa yma ac yn defnyddio Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i sicrhau nad oes rhaid i ferched ifanc erioed deimlo fel hyn.

O ran profiadau personol, rydw i yn bendant wedi adnabod a gweld anghydraddoldeb yn fy mywyd, sy’n codi cwestiynau gan ystyried fy mod i mor ifanc ag 16 oed. Rydw i wedi wynebu rhwystrau yn benodol o fewn y byd chwaraeon, ac wedi derbyn triniaeth annheg ar dimau pêl-droed pan oeddwn i mor ifanc â naw oed. Yn ogystal â hyn, rwy’n dilyn nifer o dimau chwaraeon ac wedi sylwi ar y gwahaniaeth mewn ymateb gan y cyhoedd rhwng timau, chwaraewyr a champau menywod o’i gymharu gyda rhai y dynion. Os unrhyw beth, mae’r profiadau yma wedi fy ngwneud yn fwy gwerthfawrogol o’r hyn sydd gen i ac wedi sbarduno fy angerdd dros hawliau menywod. Rydw i’n credu’n gryf bod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod mor bwysig a pherthnasol ag erioed.

Cyfleoedd i ddysgu am gydraddoldeb yn amrywio o ardal i ardal

Hana Williams

“Dylai pob ysgol ym mhob rhan o Gymru annog pobol ifanc i drafod materion cydraddoldeb,” medd Hana Williams, sy’n rhan o ddiwrnod LeadHerShip heddiw

Ysbrydoli arweinwyr y dyfodol: Cynyddu cynrychiolaeth menywod mewn gwleidyddiaeth

Bydd menywod ifanc o bob rhan o Gymru yn ymweld â’r Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 7)