Mae Cabinet Cyngor Sir Powys wedi cymeradwyo sefydlu ffrwd cyfrwng Cymraeg mewn ysgol gynradd ger Ystradgynlais.
Ar hyn o bryd, mae Ysgol y Cribarth yn Abercraf yn darparu addysg cyfrwng Saesneg i ddisgyblion pedair i 11 oed.
Ers mis Medi 2021, mae’r ysgol wedi bod yn cynnal dosbarth Cyfnod Sylfaen cyfrwng Cymraeg ar sail peilot fel rhan o gynllun sydd wedi’i gefnogi gan y Cyngor Sir.
Fe fydd y bleidlais heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 7) yn golygu bod ffrwd cyfrwng Cymraeg yn cael ei chyflwyno yn Ysgol y Cribarth o fis Medi, gan weithredu ochr yn ochr â ffrwd cyfrwng Saesneg yr ysgol.
‘Ailadrodd ar draws Powys’
Dywed y Cynghorydd Elwyn Vaughan, arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Powys, fod y cyhoeddiad i’w groesawu.
“Mae Plaid Cymru wedi hen ddadlau ar Bowys i ehangu ei darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion ar draws y sir, ac mae’r datblygiad diweddaraf hwn i’w groesawu,” meddai.
“Mae angen i ni nawr barhau i weithio i sicrhau bod ewyllys da o’r fath yn cael ei ailadrodd mewn cymunedau ar draws Powys.”
‘Newyddion da i Gwm Taf Uchaf’
Dywed Justin Horrell, cynghorydd tref Plaid Cymru dros ward Abercraf ar Gyngor Tref Ystradgynlais, fod y cyhoeddiad yn “newyddion da i holl ardal Cwm Tawe Uchaf”.
“Mae’n amlwg bod galw cynyddol am addysg Gymraeg yn yr ardal ers sawl blwyddyn,” meddai.
“Bydd cymeradwyo ffrwd Gymraeg yn Ysgol y Cribarth yn hwb i’w groesawu i’r Gymraeg yn Abercraf, yn enwedig yn wyneb canlyniadau’r cyfrifiad sy’n peri pryder.”
Bu gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd fel Abercraf ac Ystradgynlais yn ôl Cyfrifiad 2021.
Roedd hynny’n destun “pryder sylweddol” ac yn alwad ar i’r Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru newid eu hagwedd at addysg Gymraeg, yn ôl Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
“Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen i Ysgol y Cribarth ac ardal Cwm Tawe, a byddai’n annog Cyngor Sir Powys i barhau i ailadrodd gwaith mor dda mewn cymunedau ar draws y sir,” meddai.