Bydd yn rhaid i berchnogion eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi ym Mro Morgannwg dalu dwywaith treth y cyngor.
Pleidleisiodd Cyngor Bro Morgannwg ddoe (dydd Llun, Mawrth 6) i gymeradwyo premiwm treth y cyngor o 100% ar gyfer eiddo gwag hirdymor yn 2023-24.
Bydd hyn yn codi i 150% i’w ardrethu yn 2024-25, ac i 200% yn 2025-26.
Pleidleisiodd cynghorwyr hefyd i gymeradwyo premiwm treth y cyngor o 100% ar ail gartrefi, fydd yn cael ei ardrethu yn 2024-25.
Yn ôl y Cynghorydd Kevin Mahoney, yr aelod ward yn Sili, tra ei fod yn deall yr angen i dorri i lawr ar eiddo gwag sy’n “difetha strydoedd”, mae’n teiml bod yna “elfen o darfu ar ryddid sifil” mewn perthynas â’r cynnig.
“Pe bawn i yn y sefyllfa economaidd lle dw i’n berchen ar ddau dŷ, a dw i’n pwysleisio eto nad ydw i, pe bawn i’n dymuno byw yn rhywle, chwe mis fan hyn, chwe mis fan draw, pwy yw Bro Morgannwg i fod yn pregethu wrthyf fi?”
Gwrthwynebiad
Tynnodd y Cynghorydd Kevin Mahoney sylw hefyd at y ffaith fod y rhan fwyaf o ymatebwyr i ymgynghoriad ar y premiwm treth y cyngor arfaethedig yn ei wrthwynebu.
Cafodd perchnogion 930 eiddo fydd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y cynigion wahoddiad hefyd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, oedd ar y gweill rhwng Rhagfyr 5 y llynedd hyd at Ionawr 6 eleni.
O blith y 385 o ymatebion ddaeth i law, doedd 56.36% ddim yn cefnogi unrhyw newid i’r polisi presennol, a 40.8% yn ffafrio ardrethu’r premiwm ar ryw lefel.
“Does gen i ddim problem fod pobol yn berchen ar ddau dŷ, does gen i ddim problem fod pobol yn berchen ar dri thŷ neu fwy, ond os nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio’n gynhyrchiol… yna dylen nhw fod yn barod i wneud cyfraniad ychwanegol ar gyfer hynny,” meddai’r Cynghorydd Lis Burnett, arweinydd y Cyngor.
Y sefyllfa
Yn ôl Cyngor Bro Morgannwg, mae 528 eiddo gwag hirdymor a 402 eiddo sy’n cael eu hystyried yn ail gartrefi yn y sir.
Yn ôl amcangyfrifon, y refeniw posib i’w gael o bremiwm treth y cyngor ar eiddo gwag hirdymor ym Mro Morgannwg yw £924,000.
Y refeniw posib i’w gael o’r premiwm ar ail gartrefi yw £703,000 yn ôl amcangyfrifon.
“Rydyn ni’n gwybod yn iawn fod dod o hyd i gartrefi o safon i’w rhentu’n dod yn gynyddol fwy anodd gyda phrisiau sydd o hyd yn codi yn ysgogi landlordiaid i werthu, a’r bwlch sy’n cynyddu rhwng cyfraddau rhent lwfans tai lleol a rhent marchnad,” meddai’r Cynghorydd Lis Burnett.
“Mae yna brinder gwaelodol o dai ym Mro Morgannwg, fel soniais i’n gynharach, o ryw 1,200 o gartrefi y flwyddyn.
“Tra nad oes unrhyw fanteision ariannol amlwg i’r Cyngor o gyflwyno’r fath bremiwm… mae nod y premiwm yn dod â chartrefi’n ôl i ddefnydd.”