Bydd y Senedd yn pleidleisio ar Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 7).
Mae’r Gyllideb yn cynnwys £277m ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol, £165m arall ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a phecyn cymorth gwerth £460m dros ddwy flynedd ar gyfer busnesau.
Bydd y Senedd hefyd yn cynnal dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol a Chyfraddau Treth Incwm Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi penderfynu peidio codi’r dreth incwm am y tro, gan ddweud bod llawer o bobol yn ei chael hi’n anodd ymdopi â chwyddiant a biliau ynni uwch yn barod.
Gwasanaethau cyhoeddus a diogelu’r rhai agored i niwed
Cyn y ddadl yn y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Cymru mai diogelu gwasanaethau cyhoeddus a’r bobol fwyaf agored i niwed sydd wrth wraidd y Gyllideb.
“Mae ein buddsoddiad mewn llywodraeth leol yn cefnogi’r ysgolion, y gofal cymdeithasol a’r gwahanol wasanaethau hanfodol y mae ein cynghorau yn eu darparu, ac mae ein buddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn adlewyrchu ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r pwysau sy’n parhau ar y gwasanaeth iechyd,” meddai Rebecca Evans.
“Rydyn ni’n gwybod hefyd fod nifer o bobol yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd, a dyna pam mae’r Gyllideb hon yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelu’r bobol fwyaf agored i niwed.
“Rydyn ni wedi buddsoddi arian ychwanegol yn y Gronfa Cymorth Dewisol sy’n rhoi cymorth brys i bobol sy’n wynebu trafferthion ariannol, ac rydyn ni’n parhau i gefnogi cynlluniau sy’n rhoi arian yn ôl i bobl, fel Prydau Ysgol am Ddim.”
‘Llywodraeth y Deyrnas Unedig â’r pwerau’
Bydd Jeremy Hunt, Canghellor y Deyrnas Unedig, yn cyhoeddi Cyllideb y Gwanwyn yr wythnos nesaf (dydd Mercher, Mawrth 15), ac mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio gweld cyllid sydd wedi’i dargedu at y rhai sydd ei angen fwyaf.
“Mae cwmnïau ynni yn cyhoeddi’r lefelau elw uchaf a welwyd erioed, ond eto bydd biliau ynni yn mynd yn uwch o fis Ebrill, ac mae pobl yn parhau i wynebu dewisiadau hynod anodd ynghylch pethau hanfodol,” meddai Rebecca Evans.
“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig edrych ar ei Threth Ffawddelw eto er mwyn cau unrhyw fylchau ynddi, a defnyddio’r adnoddau ychwanegol a fydd ar gael o ganlyniad i’r ffaith bod cost y cymorth prisiau ynni yr oedd yn ei roi i bobl yn llai nag y rhagwelwyd, er mwyn cadw lefel y Gwarant Prisiau Ynni at £2500 o fis Ebrill.
“Oherwydd y ffordd y mae cyllid yn gweithio ledled y Deyrnas Unedig, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â’r pwerau i allu cymryd y camau pwysicach ar gyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, cyflogau yn y sector cyhoeddus a chymorth gyda chostau byw.
“Rwyf wedi pledio’r achos hwn i’r Canghellor cyn Cyllideb yr wythnos nesaf, ac rwy’n parhau i bwysleisio bod angen buddsoddi.”