Roedd cynnydd o 67% yn nifer y bobol oedd wedi cwblhau cyrsiau i droseddwyr gyrru drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng 2021 a 2022.

Yn dilyn ymgyrch ar y cyd rhwng mudiad addysgu troseddwyr ffyrdd UKROEd, cwmnïau sy’n rhedeg cyrsiau a’r lluoedd heddlu, fe wnaeth 1,253 o bobol ddilyn cwrs Cymraeg yn 2022 o gymharu â 749 y flwyddyn flaenorol.

Gwaith UKROEd ydy gweithredu, rheoli a gweinyddu’r cynllun sy’n caniatáu i bobol fynd ar gyrsiau goryrru yn hytrach na derbyn pwyntiau ar eu trwyddedau neu dalu dirwy, ynghyd â threfnu cyrsiau eraill megis rhai i bobol sy’n cael eu dal heb wregys, yn gyrru’n anniogel neu’n anystyrlon, a throseddwyr ar y traffyrdd.

Mae’r ystadegau, felly, yn cyfeirio at yr holl gyrsiau sy’n cael eu cynnig, ond cyrsiau goryrru ydy’r rhai sy’n cael eu mynychu amlaf.

Dywedodd Iestyn Davies, Pencampwr Iaith Gymraeg UKROEd, wrth golwg360 y llynedd fod nifer o siaradwyr Cymraeg yn gyndyn o wneud y cwrs drwy’r Gymraeg, gan eu bod nhw’n poeni am ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun academaidd.

“Be’ rydyn ni wedi’i sylwi yma yng Nghymru, mewn ardaloedd lle mae yna lot fawr o bobol yn siarad Cymraeg, [yw mai] dim ond canran isel iawn o’r rheiny sy’n mynd ar gwrs Cymraeg,” meddai ddechrau Mehefin y llynedd wrth egluro bod gwaith ar y gweill i herio’r ystadegau.

“Pan rydyn ni’n edrych ar yr ystadegau hynny, dydy o ddim yn adlewyrchiad o’r gymuned honno o ran faint o bobol oedd yn dewis dilyn cyrsiau Cymraeg.”

Er bod cynnydd wedi bod yn ystod pob mis yn 2022, bu cynnydd sylweddol yn ystod yr haf, o 56 o bobol yn gwneud y cwrs cyfrwng Cymraeg ym mis Gorffennaf 2021 i 150 yn 2022.

Mae’r ystadegau yn parhau ar gynnydd eleni hefyd, yn ôl Iestyn Davies.

Graff yn dangos faint o bobol wnaeth ddilyn cyrsiau i droseddwyr gyrru drwy Gymraeg yn 2021 a 2022

‘Falch iawn’

Cafodd pwyllgor gwaith ei sefydlu y llynedd rhwng UKROEd, y cwmnïau sy’n rhedeg y cyrsiau i droseddwyr gyrru, lluoedd heddlu Cymraeg a Gan Bwyll, efo’r nod o hwyluso’r siwrne i Gymry Cymraeg fynd ar y cyrsiau.

“Rydyn ni’n falch iawn o weld y cynnydd yma,” meddai Iestyn Davies wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl bod sefydlu’r pwyllgor gwaith wedi bod yn help mawr, achos mae pawb yn cydlynu ac yn cydweithio. Mae hynny wastad yn help, os gei di bawb yn gweithio ar y cyd mae o lot hwylusach.

“Mae pawb yn hapus iawn, nid yn unig yn y cwmni dw i’n gweithio iddo, ond y lluoedd hefyd a’r cwmnïau sy’n rhedeg cyrsiau.

“Maen nhw’n falch iawn bod yna gynnydd wedi bod, ac mae’n amlwg bod y siwrne yn hwylusach rŵan.

“Dw i newydd gael yr ystadegau ar gyfer Ionawr a Chwefror eleni, ac mae’r rheiny yn well nag Ionawr a Chwefror flwyddyn diwethaf.

“Rydyn ni, hyd yn oed yn 2023, yn gweld bod yna gynnydd yn y bobol sy’n mynd [ar gyrsiau Cymraeg] o gymharu â’r flwyddyn diwethaf pan oedd yna gynnydd sylweddol beth bynnag.”

‘Syml i’w ddallt’

Un o’r prif broblemau cyn hyn oedd fod pobol yn meddwl y byddai’r Gymraeg yn y cyrsiau yn rhy ffurfiol, yn ôl Iestyn Davies.

“Dydyn ni ddim wedi cael adborth gan neb yn dweud eu bod nhw wedi’i weld o’n anodd i’w ddeall,” meddai.

“Mae hyfforddwyr yn defnyddio geiriau syml i’w dallt, ac os nad ydy pobol yn dallt mae yna ddeunydd Saesneg yn y dosbarth.”

Roedd yr adborth gan bobol sydd wedi dilyn y cyrsiau Cymraeg o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys yn cynnwys sylwadau am ba mor ddiddorol a chartrefol oedd y cwrs, ac am ba mor rhwydd oedd deall y sesiwn, meddai.

‘Newid meddylfryd’

Cafodd gwaith ei wneud ar y wefan hefyd i’w gwneud hi’n haws i bobol archebu lle ar gyrsiau, a chafodd fideo ei chynhyrchu’n gofyn i bobol fynd ar gyrsiau Cymraeg os ydyn nhw’n siarad Cymraeg.

“Mae’n amlwg bod [y fideo] wedi cael llwyddiant, roedd ffrind i fi newydd wneud cwrs drwy gyfrwng Cymraeg ac roedd o’n dweud, ‘Heb i mi weld ti ar y fideo, fyswn i’n naturiol wedi mynd ar gwrs Saesneg’.

“Dywedodd o bod o’n hawdd, ac yn gyfeillgar.

“Mae’r cwmnïau a’r lluoedd wedi bod reit proactive yn trio push-io’r stori a thrio denu pobol i’w wneud.

“Mae’r neges wedi mynd allan yna, ac mae pobol wedi newid ychydig ar eu meddylfryd dw i’n meddwl, ac yn barod i gymryd y plunge i’w wneud o drwy gyfrwng y Gymraeg.”