Bydd Clwb Pêl-droed Abertawe’n cynnal banc bwyd cyn eu gêm nesaf yn erbyn Middlesbrough yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn (Mawrth 11).
Mae’r banc bwyd wedi’i drefnu ar y cyd â’r noddwyr Westacres, gorsaf radio The Wave a Sefydliad Clwb Pêl-droed Abertawe.
Bydd modd i gefnogwyr gyfrannu eitemau rhwng 12.30yp a 3 o’r gloch, cyn cic gynta’r gêm, y tu allan i Eisteddle’r De ger y siop a’r swyddfa docynnau.
Bydd yr holl roddion yn cael eu trosglwyddo i Fanc Bwyd Abertawe, fydd yn cynnig bwyd a chefnogaeth frys i gefnogi pobol leol sy’n wynebu argyfwng.
Ymhlith yr eitemau sy’n dderbyniol mae
- pysgod mewn tun
- cig mewn tun
- cawl
- ffa pob
- bisgedi
- pwdin reis
- cwstard
- ffrwythau mewn tun
- sudd ffrwythau oes hir
- coffi mewn jar
- bagiau te
- llysiau mewn tun
- tomatos mewn tun
- reis i’r meicrodon
- llaeth UHT neu bowdr
- grawnfwyd
Rhaid fod yr eitemau heb eu hagor, a bod dyddiad rhesymol arnyn nhw.
‘Eisiau helpu cefnogwyr lleol a’r rhai mewn angen’
“Mae’r argyfwng costau byw wedi gafael yn y Deyrnas Unedig ac rydym mewn sefyllfa lle mae angen cymorth a chefnogaeth ar nifer o bobol yn ein cymuned,” meddai Julian Winter, Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Abertawe.
“Mae’r clwb hwn bob amser eisiau helpu cefnogwyr lleol a’r rhai mewn angen, yn enwedig yn ystod yr amserau economaidd anodd hyn, ac rydym wrth ein boddau o allu cydweithio â Westacres, Sefydliad Clwb Pêl-droed Abertawe a’r Wave ar gyfer y fath ymgyrch bwysig.
“Rydym yn annog y gymuned i roi beth bynnag maen nhw’n gallu ei roi i gefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf.
“Mae Banc Bwyd Abertawe’n chwarae rhan mor hanfodol yn ein cymuned fel y byddwn ni’n eu cefnogi nhw ym mhob ffordd bosib.”
Yn ôl Debbie Sharpe, gweinyddwr Banc Bwyd Abertawe, roedd y cymorth gawson nhw cyn y Nadolig wedi eu helpu nhw i fwydo 906 o oedolion a 524 o blant yn ystod mis Rhagfyr.
“Roedd nifer o unigolion a theuluoedd wedi gallu cael Nadolig gwell o gael y cymorth ychwanegol hwnnw, gydag ambell beth ychwanegol arbennig yn cael eu taflu i mewn.
“Mae Ionawr wedi bod yn fis eithriadol o brysur i’n holl fanciau bwyd, ac mae’r holl roddion hael gawson ni cyn y Nadolig wedi mynd.
“Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw roddion, waeth pa mor fawr neu fach, ac mae popeth yn gwneud gwahaniaeth i rywun.”