Mae Leah Wilkinson, capten tîm hoci merched Cymru, wedi cyhoeddi ei hymddeoliad.

Does neb yn hanes chwaraeon yng Nghymru wedi ennill mwy na’i 204 o gapiau, a hithau wedi cynrychioli Cymru rhwng 2004 a 2022 ac wedi cynrychioli tîm Prydain hefyd.

Yn ôl Hoci Cymru, mae ei chyflawniad yn dangos “ei hymrwymiad i’w thimau”.

Chwaraeodd hi dros Gymru mewn pedwar Gemau’r Gymanwlad, yn ogystal â Phencampwriaeth Ewrop droeon, ac enillodd ei chap cyntaf dros Brydain yn 2019, gan ennill y fedal efydd yng Ngemau Olympaidd Tokyo.

Cafodd ei phenodi’n gapten Cymru yn 2018, gan barhau â’i gwaith o ddydd i ddydd fel athrawes hanes.

Er gwaetha’i hymddeoliad o’r llwyfan rhyngwladol, bydd hi’n parhau i chwarae i glwb Surbiton HC yn Uwch Gynghrair Hoci Lloegr.

‘Atgofion di-ri’

“Gyda chalon drom dw i wedi penderfynu ymddeol o hoci rhyngwladol,” meddai Leah Wilkinson.

“Ar ôl chwarae dros Gymru ers bron i ddau ddegawd, dw i’n gwybod fod yr amser yn iawn, ac er nad oes modd mesur faint y bydda i’n gweld eisiau cynrychioli Cymru, dw i’n credu’n gryf fod y garfan mewn lle gwych ac y byddan nhw’n parhau i ddringo rhestr detholion y byd.

“Wrth feddwl am fy amser yn chwarae dros Gymru, mae gen i atgofion di-ri, o deithio ar draws Rwsia mewn bws, i chwarae gerbron miloedd o bobol ar yr Arfordir Aur.

“Dw i wedi bod mor lwcus; dw i wedi teithio’r byd, wedi chwarae ym Mhencampwriaeth Ewrop naw gwaith a phedwar Gemau’r Gymanwlad, gan chwarae yn erbyn rhai o’r timau a’r chwaraewyr gorau yn y byd.

“Dw i wedi cael fy hyfforddi gan rai hyfforddwyr o safon fyd-eang, ac yn bwysicaf oll, dw i wedi chwarae ochr yn ochr â nifer o fenywod anhygoel.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm wrth fy nhaith gyda Hoci Cymru ers 2004; bydda i bob amser yn ddiolchgar.

“Diolch hefyd i’m teulu a ffrindiau sydd wedi fy nghefnogi drwy gydol fy nhaith, fe fu’n rollercoaster i ni gyd!

“Bydda i’n parhau i gefnogi’r tîm o bell, ac yn dymuno’n dda iddyn nhw.

Diolch am bopeth.”

‘Aelod uchel ei pharch a gwerthfawr’

Ers pedair blynedd, fe fu Leah Wilkinson hefyd yn aelod o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru.

“Fe fu Leah yn aelod uchel ei pharch a gwerthfawr o Dîm Cymru, nid yn unig ar y cae ond fel aelod allweddol o Gomisiwn yr Athletwyr yn ystod cylchdaith Birmingham 2022 – mae hi wedi bod yn ddibynadwy wrth ymgysylltu ac yn angerddol yn ystod ei hamser ar y Comisiwn, ac wir wedi bod eisiau gwneud gwahaniaeth a rhoi llais i athletwyr wrth wneud penderfyniadau,” meddai Cathy Williams, Pennaeth Ymgysylltu Comisiwn Athletwyr Tîm Cymru.

“Bu’n bleser cydweithio â hi, a hoffem ddiolch iddi am yr holl amser mae hi wedi’i roi i Dîm Cymru, ar y cae chwarae ac oddi arno.”

‘Hirhoedledd’

Mae Kevin Johnson, Prif Hyfforddwr Cymru, hefyd wedi talu teyrnged iddi, gan ddweud ei bod hi “bron yn rhy anodd â geiriau i allu cyfleu effaith a gwaddol llawn cyfraniad Leah i Hoci Cymru dros gyfnod mor hir o amser”.

“Mi wnaeth hi gyflawni ei hirhoedledd ar y lefel uchaf bron yn sicr o ganlyniad i’r safonau proffesiynol eithriadol o uchel osododd hi ac y cyrhaeddodd hi iddi hi ei hun, a wnaeth hi fyth adael iddi hi ei hun fod yn unrhyw beth arall ond mor barod â phosib i ddangos y lefelau cyson o ran perfformiad wnaeth hi drwy gydol ei gyrfa ryngwladol,” meddai.

“Roedd hi gêm ar y cae bob amser yn gyfuniad wnaeth argraff, o’i natur gystadleuol dros ben â’i helfen gorfforol, ei dewrder a steil o frwydro, ochr yn ochr â’i hewyllys i ennill oedd yn golygu ei bod hi’n llawer rhy aml wedi rhoi ei chorff yn y fantol dros y tîm, gyda chanlyniadau poenus ar adegau, yn ogystal â sgiliau technegol hynod effeithiol y gallai eu defnyddio yr un mor effeithiol o dan bwysau.

“Cyfrannodd hi â goliau pwysig yn rheolaidd, gan ddangos unwaith eto ei gallu i gyflawni o dan bwysau, gyda’i hansawdd ar ei fwyaf amlwg gyda’i gwyriadau ar ochr y pen o gorneli cosb, y bydd nifer o dimau rhyngwladol bellach yn falch na fyddan nhw’n gorfod ceisio’u hatal nhw yn y dyfodol!

“Oddi ar y cae, tyfodd hi’n arweinydd effeithiol ar y grŵp, nid yn unig wrth arwain drwy esiampl ac fel eilun i nifer gyda’i chwarae, ond hefyd gyda’i pharodrwydd i rannu ei phrofiadau bywyd a helpu i gefnogi aelodau eraill o’r garfan wrth iddyn nhw ffeindio’u ffordd drwy fywyd a hoci rhyngwladol.

“Ro’n i wrth fy modd y daeth y cyfan at ei gilydd i Leah wrth gael ei dewis ar gyfer rhaglen Prydain Fawr a Gemau Olympaidd Tokyo, a bydd ei medal Olympaidd yn symbol parhaus o ddyfalbarhad a pheidio byth â derbyn yr ail safle i chi eich hun a’ch dyheadau.

“Y stori hon a nifer o straeon eraill o gyfnod Leah fydd yn cael eu hailadrodd yn ddiddiwedd gan hyfforddwyr a chwaraewyr fel ei gilydd yn y blynyddoedd i ddod.

“Am waddol, am yrfa fuodd hi, Leah, a diolch yn bersonol gan fy mod i wedi mwynhau gweithio gyda ti, ac am yr atgofion rwyt ti wedi helpu i’w siapio a’u creu ar hyd y ffordd.”