Mae Shaun Connor, cyn-faswr y Gweilch a’r Dreigiau, yw hyfforddwr ymosod a chicio newydd tîm rygbi merched Cymru.

Daw’r penodiad ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae’n ymuno â thîm hyfforddi Ioan Cunningham ar ôl bod yn hyfforddi Academi’r Dreigiau a thîm dan 20 Cymru, lle bydd yn parhau yn ei swydd tan ddiwedd eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad.

Roedd yn hyfforddwr sgiliau gyda’r Dreigiau ac yn is-hyfforddwr gyda Rwsia yng Nghwpan y Byd yn 2019.

Mae’n olynu Richard Whiffin, sydd wedi’i benodi i swydd newydd gyda’r Highlanders yn Seland Newydd.

Roedd Stephen Myler yn hyfforddwr cicio dros dro Cymru hyd at Gwpan y Byd.

Bydd ymgyrch Chwe Gwlad Cymru’n dechrau gyda gornest yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd ar Fawrth 25 (2.15yp).

Dywed Shaun Connor fod y swydd yn “her newydd” sy’n ei gyffroi.