Mae golwg360 yn deall bod Clwb Criced Morgannwg yn disgwyl cyhoeddi enw eu prif hyfforddwr gemau undydd newydd o fewn yr wythnos nesaf.
Mae’r clwb yn chwilio am olynydd i Matthew Maynard, fydd yn canolbwyntio ar gemau’r Bencampwriaeth yn unig.
Yn ôl adroddiadau yn The Cricketer ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, mae’r sir Gymreig yn gobeithio penodi Mark Alleyne, cyn-gapten Clwb Criced Swydd Gaerloyw a chyn-chwaraewr amryddawn Lloegr, sydd hefyd yn is-hyfforddwr gyda thîm dinesig y Tân Cymreig yng Nghaerdydd.
Dydy’r clwb ddim wedi cadarnhau na gwadu’r sïon.
Mae’r tîm ar daith yn Zimbabwe ar hyn o bryd, lle byddan nhw’n chwarae nifer o gemau undydd ar ôl gêm dridiau.
Y gred yw y byddan nhw’n cyhoeddi enw’r hyfforddwr newydd ar ôl
Chwaraeodd Alleyne, sy’n 54 oed, i Swydd Gaerloyw rhwng 1986 a 2005, gan arwain ei dîm i naw tlws mewn saith mlynedd yn gapten, cyn mynd yn ei flaen i hyfforddi’r sir rhwng 2004 a 2008.
Mae ganddo fe brofiad hefyd fel hyfforddwr gyda thîm Lloegr.
Tra bod camau breision wedi’u cymryd yng ngemau’r bêl goch, mae’r canlyniadau mewn gemau pêl wen wedi bod yn siomedig ar y cyfan.
Enillon nhw bedair allan o wyth gêm yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London y tymor diwethaf, flwyddyn yn unig ar ôl cipio’r tlws.
Enillon nhw bum gêm a cholli saith yn y Vitality Blast, y gystadleuaeth ugain pelawd.
Taith gerdded elusennol
Yn y cyfamser, bydd Matthew Maynard yn cwblhau taith gerdded arbennig – yn ei welingtons – ym mis Hydref, er cof am ei fab Tom, cyn-gricedwr Morgannwg a Surrey, fu farw’n 23 oed yn 2012.
Bydd e’n cwblhau’r daith o 1,189 o filltiroedd o Penn an Wlas (Land’s End) i Taigh Iain Ghròt (John o’ Groats) i godi arian at Ymddiriedolaeth y Cricedwyr Proffesiynol ac elusen cyn-filwyr Help for Heroes.
Dyma’r eildro iddo gwblhau taith gerdded mewn welingtons, ar ôl cerdded yr holl ffordd o Gaerdydd i Fae Colwyn i godi arian at Ymddiriedolaeth Tom Maynard, oedd wedi cefnogi’r teulu yn eu profedigaeth.