Mae clwb hel atgofion chwaraeon yn cael ei lansio yng Nghlwb Pêl-droed Bangor 1876 heddiw (dydd Llun, Mawrth 6), gyda’r sesiwn gyntaf yn cael ei chynnal rhwng 3-4.30yp.

Yn ôl cadeirydd Clwb Pêl-droed Bangor 1876, mae’r clwb hel atgofion chwaraeon “ar gael i unrhyw un sydd eisiau dod,” a’u bod “yn targedu yn enwedig pobol hŷn, pobol sydd efallai efo dementia, pobol sydd yn unig, pobol sydd yn awyddus i fod yn gwmni pobol eraill a chael cyfle i gael sgwrs”.

Gyda chynifer o bobol yn angerddol dros chwaraeon, bydd y clwb yn gyfle i hen ffrindiau gael rhannu atgofion melys.

Mae pêl-droed yn dda i bobl ar sawl lefel, yn feddyliol, yn gorfforol ac yn gymunedol a bydd hyn yn cael ei ddathlu a’i ddatblygu ymhellach.

Mae hel atgofion yn rhan o daith bywyd rhywun, ac mae ymfalchïo mewn amseroedd da yn y byd chwaraeon yn rhan annatod o ddifyrrwch chwaraewyr a chyn-chwaraewyr.

“Mae yna sawl un ohonom ni wedi mwynhau profiadau o wylio chwaraeon,” meddai Glynne Roberts wrth golwg360.

“Mae chwaraeon yn gallu bod yn rywbeth emosiynol iawn.

“Mae rhywun yn cael rhannu atgofion efo ffrindiau.

“Yn aml iawn, pan mae rhywun yn edrych yn ôl, hyd yn oed os nad yw eu tîm nhw wedi gwneud yn dda, maen nhw dal efo teimlad cynnes eu bod nhw’n perthyn i rywbeth, bod yn rhan o rywbeth a bod y cyfle yna i hel atgofion dal yn bwysig i bobol.

“Mae’r cyfle i gofio am unrhyw beth yn bwysig.

“Gan ein bod ni’n glwb pêl-droed, rydym yn teimlo ein bod yn gallu cyfrannu rhywbeth trwy’r ffaith ein bod ni’n trafod chwaraeon yn y cyd-destun yna.”

Dod â’r gymuned ynghyd

Hyd yn oed i’r rhai nad ydyn nhw’n bobol gymdeithasol, mae chwaraeon yn dod â phobol o bob math o gefndiroedd a llwybrau bywyd ynghyd.

“Os rwy’n defnyddio’r enghraifft sydd gennym ni o glwb pêl-droed, mae’n dod â phobol sydd ddim efallai yn cymysgu’n naturiol, pobol sydd ddim yn gweld ei gilydd mewn unrhyw ran arall o’u bywydau,” meddai Glynne Roberts wedyn.

“Mae’n dod â phob sector o’r gymdeithas at ei gilydd, ac mae’n creu cyfeillgarwch efo pobol newydd, efo grwpiau dydyn nhw ddim yn gweld fel arall, a bod ganddyn nhw ddim diddordebau eraill yn gyffredin.

“Beth sy’n dda, drwy ddilyn chwaraeon mae’n rhoi’r cyfle yna i’r bobol ddod at ei gilydd.

“Mae bron yn creu rhyw deimlad o fod yn rhan o deulu estynedig.

“Mae’r cyfle yna i gymdeithasu, i fod yn rhan o rywbeth, a rhannu’r profiadau yma, ac yn yr achos yma dwyn i gof yr atgofion yna hefyd.”

‘Rhan o rywbeth mwy’

Calon y cynllun hwn fydd iechyd meddwl a chorfforol yn y gymuned, a gyda phêl-droed yn cyd-fynd â hyn, y gobaith yw cynyddu nifer y chwaraewyr yn y clwb er mwyn iddyn nhw gael blas ar y manteision sydd gan gêm y bêl gron i’w cynnig.

“Mae beth sydd gennym yn cychwyn efo clwb atgofion chwaraeon; mae’n rhan o gynllun ehangach sydd gennym ni,” meddai Glynne Roberts.

“Rydym yn ffodus iawn.

“Mae’n prif noddwr ni [Watkin Property Ventures] hefyd wedi gofyn i ni lunio rhaglen sy’n edrych ar iechyd meddwl a llesiant pobol.

“Beth rydym yn bwriadu gwneud, i bob pwrpas, yw noddi ein hunain yn y gymuned.

“Rydym wedi deillio o’r gymuned, rydym yn rhan o’r gymuned, ac rydym yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

“Rwy’n meddwl bod yr elfennau yna’n hollbwysig i ni.

“Pan mae rhywun yn cymryd rhan mewn chwaraeon, mae’n amlwg yn dda i’w iechyd corfforol nhw.

“Mae yna linc wedyn rhwng iechyd corfforol da ac iechyd meddwl da.

“Fel rhan o’n cynllun ehangach yn y gymuned, rydym yn anelu i gynyddu nifer y bobol sy’n chwarae pêl-droed.

“Mae gennym raglen rydym ar fin ei chynnig i ysgolion lleol.

“Rydym yn teimlo’n gryf fel clwb cymunedol, clwb sy’n eiddo i’r cefnogwyr, bod gennym rôl bwysig iawn i’w chwarae o ran hyrwyddo chwaraeon a chael pobol yn actif.

“Wedyn hefyd, y linc rhwng iechyd corfforol a meddyliol.”

Grwpiau eraill tebyg

Mae nifer o grwpiau tebyg ar hyd a lled Cymru.

Un ohonyn nhw yw Clwb Rygbi Pontypridd, sy’n cyfarfod yn Heol Sardis bob bore Iau rhwng 10.30yb-12yp, ac ymhlith yr aelodau mae nifer o gyn-chwaraewyr.

Maen nhw’n hel atgofion am y clwb, yn cynnal cwisiau chwaraeon, llu o weithgareddau amrywiol ac yn gwrando ar siaradwyr gwadd, yn ogystal ag ymweld â chlybiau tebyg ar draws y wlad.

Ar wahân i Fangor 1876, Nefyn yw’r unig grŵp arall yn y gogledd, tra bod nifer yn y de – yn Hwlffordd, Casllwchwr, Dyfnant, Abertawe, Ynystawe, Castell-nedd, a nifer yng Nghymoedd y De a Gwent.