Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi na fydd Alex Cuthbert yn y garfan ar gyfer dwy gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dydy’r prif hyfforddwr Warren Gatland ddim wedi galw unrhyw un arall i’r garfan yn lle’r asgellwr, sydd wedi anafu ei droed.

Mae’r garfan wedi ymgynnull eto i orffen eu paratoadau ar gyfer y gêm olaf ond un yn erbyn yr Eidal yn Rhufain ddydd Sadwrn (Mawrth 11), gyda’r gic gyntaf am 2.15yp.

Byddan nhw’n gorffen eu hymgyrch siomedig yn erbyn Ffrainc yn Paris yr wythnos ganlynol ar Fawrth 18.