Mae tîm criced Cymru dros 50 yn dechrau eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd yn Ne Affrica gyda gêm yn erbyn Pacistan heddiw (dydd Llun, Mawrth 6).

Byddan nhw’n chwarae naw gêm dros gyfnod o 14 o ddiwrnodau yn y twrnament cyntaf ers i’r un ddiwethaf yn 2020 ddirwyn i ben yn gynnar yn sgil Covid-19.

Yn y gystadleuaeth honno, fe wnaethon nhw guro Namibia a cholli yn erbyn De Affrica cyn dechrau’r ornest yn erbyn Pacistan oedd wedi gorfod cael ei chanslo ar ei hanner pan dorrodd y newyddion am y feirws.

Bydd Cymru hefyd yn herio India, De Affrica, Namibia, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Lloegr yn eu grŵp, cyn iddyn nhw droi eu sylw at gêm baratoadol yn erbyn Canada cyn y gemau ail gyfle wrth iddyn nhw geisio sicrhau eu lle yn y rownd derfynol ar gae byd-enwog Newlands.

Er bod nifer o gyn-gricedwyr proffesiynol yn chwarae yn y twrnament, gyda chyn-droellwr Swydd Gaerloyw Mark Davies a chyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg Michael Cann yng ngharfan Cymru, mae’r gystadleuaeth yn gyfle i chwaraewyr ar lefel clybiau Cymru serennu.

Yn y gêm gyntaf, mae chwaraewyr o Sgiwen, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, Pontarddulais, Meisgyn, Caerdydd, Abertawe, Ynysygerwn, Ffoaduriaid Casnewydd, Dolgellau, Briton Ferry Steel a Chas-gwent yn cynrychioli Cymru.

Y capteiniaid ar gyfer y twrnament yw John Jones (Sgiwen) ac Iwan Rees (Llanelli).