Mae Helen Ward, y prif sgoriwr yn hanes tîm Cymru, wedi ymddeol o’r byd pêl-droed rhyngwladol.

Mae hi wedi sgorio 44 o goliau dros ei gwlad, y nifer fwyaf erioed yn hanes tîm y merched.

Bydd hi’n ymddeol o’r byd pêl-droed yn gyfangwbl ar ddiwedd y tymor, a hithau’n chwarae i Watford ar hyn o bryd.

Enillodd ei chap cyntaf dros Gymru yn erbyn Lwcsembwrg yn 2008 – “y diwrnod y newidiodd fy mywyd,” meddai.

Wrth glywed yr anthem genedlaethol, meddai, “daeth hi’n fwy na gêm” ond mae’n cyfaddef nad oedd hi byth wedi dychmygu y byddai’n ennill dros gant o gapiau.

“Ro’n i’n rhan o deulu,” meddai.

“Fel un o’r tu draw i’r bont, ces i groeso gan y grŵp mwyaf arbennig o bobol, a wnes i fyth edrych yn ôl.

“Daeth y merched hynny, y tîm hwnnw a Chymru yn bopeth i fi.”

Ond mae’n dweud ei bod hi’n torri’i chalon na chafodd hi’r cyfle i chwarae mewn twrnament mawr rhyngwladol, ond y bydd hi’n cefnogi’r tîm pryd bynnag y bydd yn digwydd.

“Diolch i bob chwaraewr, aelod o staff a chefnogwr sydd wedi ymddiried ynof fi…” meddai.

“Mae’r cariad sydd gennyf tuag atoch chi’n ddiddiwedd.

“Fe wnes i roi popeth i chi sydd gennyff, gobeithio eich bod chi’n gwybod hynny.

“Dw i’n dy garu di, Cymru.”