Mae Aaron Ramsey wedi cael anaf newydd fydd yn ei gadw allan o’r gêm am gyfnod pellach.

Dydy capten Cymru ddim wedi chwarae ers iddo fe anafu llinyn y gâr wrth chwarae dros ei wlad yn erbyn Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd fis Medi.

Roedd disgwyl iddo fe ddychwelyd ar ôl deufis, ac roedd e wedi dechrau ymarfer gyda Chaerdydd unwaith eto, ond mae’r chwaraewr 33 oed wedi cael anaf newydd.

Yn ôl Omer Riza, rheolwr dros dro’r Adar Gleision, mae gan Ramsey “broblem fach”, ac mae’r clwb yn aros am gadarnhad o’r sefyllfa gan eu tîm meddygol.