Bydd nifer o gemau criced ugain pelawd dynion a menywod yn cael eu cynnal gefn wrth gefn yn ystod tymor 2025.

Bydd pob un o’r deunaw sir yn cynnal o leiaf un diwrnod o gemau cefn wrth gefn – y tro cyntaf erioed i hynny ddigwydd.

Bydd y menywod yn chwarae mewn dwy gystadleuaeth ugain pelawd, gyda’r naill yn cynnwys yr wyth tîm Haen Un – sef y timau fydd yn chwarae gefn wrth gefn â’r dynion – a’r ail yn cynnwys y deg sir arall (Cynghrair 2).

Mae hynny’n golygu y bydd cyfanswm o 52 o gemau cefn wrth gefn mewn ugain o leoliadau yn ystod y tymor.

Calendr

Bydd y Vitality Blast yn dechrau ar benwythnos Mai 29, gyda deg o gemau cefn wrth gefn, gyda phob un o wyth tîm y menywod yn chwarae.

Fe fydd penwythnos yn cael ei neilltuo yng nghystadleuaeth y dynion i gemau rhwng hen elynion.

Bydd y grwpiau’n dod i ben ar Orffennaf 18, gyda’r dydd Gwener olaf yng nghystadleuaeth y menywod yn ras i gyrraedd Diwrnod y Ffeinals, tra bydd y dynion yn ceisio cyrraedd rownd yr wyth olaf.

Bydd Diwrnod Ffeinals y dynion yn Edgbaston ar Fedi 13, gyda’r menywod yn cynnal Diwrnod y Ffeinals ar yr Oval ar Orffennaf 27.

Yn ôl yr ECB, maen nhw wedi ymrwymo i sicrhau bod gemau’r dynion a’r menywod yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’i gilydd, gan ddechrau “oes newydd” i griced proffesiynol yng Nghymru a Lloegr.

Ar sail ymgynghoriad â’r chwaraewyr, bydd mwy o gemau’r dynion yn cael eu chwarae ganol yr wythnos, ar nosweithiau Mawrth a Mercher, ac fe fydd mwy o fwlch rhwng gemau.

Ymateb Morgannwg

Bydd tîm dynion Morgannwg yn agor y gystadleuaeth gydag ymweliad ag Ysgol Merchant Taylors i herio Middlesex ar Fehefin 1.

Byddan nhw’n herio Swydd Gaerloyw oddi cartref ar Fehefin 15, a Gwlad yr Haf gartref ar Fehefin 20.

“Mae’r Vitality Blast yn gystadleuaeth rydych chi bob amser yn chwilio amdani pan ddaw trefn y gemau allan, ac ar ôl nifer o gemau cyffrous yng Ngerddi Sophia y llynedd, rydyn ni’n edrych ymlaen at fynd allan yno a chwarae’n dda yn y gystadleuaeth y tymor hwn,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

Ychwanega Aimee Rees, Pennaeth Menywod a Merched Morgannwg, eu bod nhw’n edrych ymlaen at “oes newydd ar gyfer Menywod Morgannwg”.

“Mae’n amser cyffrous i griced menywod yng Nghymru,” meddai.

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael chwarae nifer o gemau cefn wrth gefn ochr yn ochr â thimau’r dynion.

“Rydyn ni wedi gweld llwyddiant gemau cefn wrth gefn yn y Can Pelen, ac fe fydd yn rhoi cyfle i gefnogwyr Morgannwg ddod i gefnogi tîm y menywod, a gobeithio y bydd yn denu cenhedlaeth newydd o gefnogwyr i ddod i gefnogi Morgannwg.”