Mae pum newid yn nhîm rygbi Cymru i herio De Affrica yng ngêm ola’r hydref.
Daw Rio Dyer i mewn ar yr asgell am y tro cyntaf yng nghyfres yr hydref, gyda Blair Murrayn symud i safle’r cefnwr, a Tom Rodgers yn cwblhau’r triawd yn y cefn.
Daw Sam Costelow i mewn yn safle’r maswr i ddechrau am y tro cyntaf yn yr hydref, ac mae Christ Tshiunza wedi’i enwi yn yr ail reng gyda Will Rowlands, yn sgil yr anaf i Adam Beard.
Taine Plumtree fydd yn dechrau yn safle’r wythwr, gyda James Botham a Jac Morgan yn cwblhau’r rheng ôl.
Mae dau newid ar y fainc hefyd, gyda’r clo Freddie Thomas a’r chwaraewr rheng ôl Josh Hathaway yn cymryd eu llefydd.
Dywed y prif hyfforddwr Warren Gatland, sydd dan bwysau ar ôl unarddeg colled o’r bron, fod y golled ddiweddaraf yn erbyn Awstralia’n “brifo”, a bod “rhaid gwella’r cywirdeb” wrth iddyn nhw wynebu her gorfforol.
Tîm Cymru
15. Blair Murray (Scarlets), 14. Tom Rogers (Scarlets), 13. Max Llewellyn (Caerloyw), 12. Ben Thomas (Rygbi Caerdydd), 11. Rio Dyer (Dreigiau), 10. Sam Costelow (Scarlets), 9. Ellis Bevan (Rygbi Caerdydd); 1. Gareth Thomas (Gweilch), 2. Dewi Lake (Gweilch, capten), 3. Archie Griffin (Caerfaddon), 4. Will Rowlands (Racing 92), 5. Christ Tshiunza (Caerwysg), 6. James Botham (Rygbi Caerdydd), 7. Jac Morgan (Gweilch), 8. Taine Plumtree (Scarlets)
Eilyddion
16. Ryan Elias (Scarlets), 17. Nicky Smith (Caerlŷr), 18. Keiron Assiratti (Rygbi Caerdydd), 19. Freddie Thomas (Caerloyw), 20. Tommy Reffell (Caerlŷr), 21. Rhodri Williams (Dreigiau), 22. Eddie James (Scarlets), 23. Josh Hathaway (Caerloyw)