Mae Clwb Criced Morgannwg wedi ennill gwobr Profiad Gwylwyr Domestig Gorau y Flwyddyn Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) ar gyfer 2024.
Daeth y wobr yn ystod noson wobrwyo Gwobrau Busnes Criced yr ECB yn Edgbaston.
Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth o’r profiad mae Gerddi Sophia, cartref criced proffesiynol yng Nghymru, yn ei gynnig i ymwelwyr o bob cwr o wledydd Prydain.
Fe wnaeth y cae yng Nghaerdydd gynnal saith gêm Bencampwriaeth, pedair gêm 50 pelawd yng Nghwpan Undydd Metro Bank, saith gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast, pedair gêm y Tân Cymreig yn y Can Pelen, dwy gêm tîm menywod Western Storm, rownd derfynol Uwch Gynghrair Anabledd yr ECB a dwy gêm ugain pelawd Lloegr yn erbyn Pacistan ac Awstralia.
Dywed Ed Rice, Pennaeth Masnachol Clwb Criced Morgannwg, fod y clwb “yn falch iawn” o ennill y wobr.
“Mae profiad cwsmeriaid yng Ngerddi Sophia wedi bod yn ganolbwynt gwirioneddol i ni dros y blynyddoedd diwethaf, ac fe fu’n ymdrech tîm cyfan gan bawb yn y clwb i yrru’r gwelliannau rydyn ni wedi’u gweld,” meddai.
“Mae cael ein cydnabod ar gyfer y profiad criced domestig gorau i wylwyr yng Nghymru a Lloegr yn dyst i’n hymrwymiad i ymgysylltu â’r holl gefnogwyr criced, a rhoi profiad cofiadwy, croesawgar iddyn nhw wrth iddyn nhw ddod i Erddi Sophia.”
Mae Morgannwg wedi diolch i’r cefnogwyr, gan edrych ymlaen at dymor 2025.