Mae un o gricedwyr Morgannwg wedi rhybuddio bod rhaid i’r byd criced fod yn effro i beryglon amserlen dynn o gemau dros yr haf.

Mae trefn gemau tymor 2025 bellach wedi cael ei chyhoeddi, ond “camau babi” yn unig sydd wedi’u cymryd i fynd i’r afael â phryderon am les chwaraewyr o ganlyniad i ormod o griced a diffyg seibiant, yn ôl James Harris, bowliwr cyflym Morgannwg a chadeirydd Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA).

Yn ôl y PCA, mae’r awdurdodau wedi blaenoriaethau elfennau masnachol ac ariannol ar draul diogelwch chwaraewyr, gyda theithiau hir ac ychydig iawn o amser i orffwys rhwng gemau.

Yn ystod 2025, fe fydd 39 o gemau ugain pelawd yn cael eu cynnal bron yn syth ar ôl ei gilydd, i lawr o 55 yn ystod tymor 2024.

A gyda chynnydd yn nifer y gemau mae menywod yn eu chwarae y tymor nesaf, a mwy o gemau dynion a menywod ar yr un diwrnod, byddan nhw’n chwarae mwy o griced nag erioed o’r blaen.

Ers tua blwyddyn bellach, mae’r chwaraewyr wedi bod yn lleisio pryderon am eu hiechyd corfforol a meddyliol wrth orfod chwarae mwy o griced.

Dywedodd 81% o ddynion mewn arolwg cyn tymor 2024 fod yr amserlen bresennol yn achosi pryderon am eu hiechyd corfforol, a 62% yn dweud bod ganddyn nhw bryderon am eu hiechyd meddwl.

Nododd 76% bryderon am eu gallu i deithio’n ddiogel.

‘Ddim yn addas ar gyfer ei phwrpas’

“Yn ystod Uwchgynhadledd y PCA ym mis Hydref, fe wnaeth Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) gydnabod nad yw amserlen y dynion yn addas ar gyfer ei phwrpas, a bod gofyn am newidiadau er mwyn bodloni isafswm gofynion lles chwaraewyr ar ddiwrnodau o orffwys, adferiad a pharatoi rhwng gemau,” meddai James Harris.

“Mae angen newidiadau ar y chwaraewyr, a gyda’r ECB i weld yn gefnogol, mae angen i’r deunaw sir dosbarth cyntaf gydnabod pryderon, nid yn unig gan y chwaraewyr ond y staff cynorthwyol proffesiynol ehangach, a dod ynghyd fel un i wneud newidiadau adeiladol i gefnogi dyfodol ein camp.

“Mae’n waith amhosib creu amserlen ddiogel gyda’r strwythur ar hyn o bryd, ac mae camau babi wedi’u cymryd ar gyfer 2025.

“Rydyn ni’n annog y gamp i ddod ynghyd, oherwydd all y mater hwn ddim gael ei gicio i ffwrdd bellach.

“Allwn ni ddim aros am drasiedi cyn bod y gamp yn dihuno ac yn cydnabod nad yw lles chwaraewyr wedi cael ei flaenoriaethu.

“Mae llawer o waith i’w wneud, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â’r holl randdeiliaid perthnasol i wneud ambell newid bach i’r amserlen ar gyfer 2026.”