Mae penaethiaid Undeb Rygbi Cymru yn cyfaddef fod gan y corff llywodraethu ffordd bell i fynd, ar ôl i adolygiad annibynnol ddatgelu diwylliant “tocsig” o fwlio a gwreig-gasineb.
Mae aelodau Pwyllgor Diwylliant y Senedd wedi bod yn holi cynrychiolwyr Undeb Rygbi Cymru, sydd wedi bod dan y lach yn sgil honiadau o rywiaeth, hiliaeth a homoffobia dros y flwyddyn ddiwethaf.
Fe wnaeth Hannah Blythyn o’r Blaid Lafur bwyso ar y tystion ynghylch rhoi rhybudd o dair awr yn unig i dîm menywod Cymru yn ystod trafodaethau am gytundebau, gan ofyn ai dyma sut mae Undeb Rygbi Cymru’n trin gweithwyr.
Dywedodd Richard Collier-Keywood, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru ers Gorffennaf 2023, wrth y pwyllgor ei fod e ac Abi Tierney, y Prif Weithredwr, bellach wedi ymddiheuro wrth y chwaraewyr am fethiannau difrifol.
“Doedd hynny ddim yn rywbeth ddylai fod wedi digwydd,” meddai.
“Ddylen ni’n sicr ddim bod wedi rhoi rhybudd o dair awr i’r chwaraewyr lofnodi’r cytundebau… yn sicr, nid dyna’r arfer dw i eisiau ei weld yn Undeb Rygbi Cymru.”
‘Camadrodd’
“Rydych chi wedi egluro eich bod chi’n credu eich bod chi wedi cymryd camau arwyddocaol yn nhermau newid agweddau tuag at faterion diwylliannol,” meddai Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.
“O ystyried fod llygaid pawb arnoch chi… ac yn enwedig eich agwedd tuag at fenywod o fewn y sefydliad, ydych chi’n teimlo bod angen i chi ailasesu pa mor bell ymlaen rydych chi’n credu eich bod chi wedi dod fel undeb yn wyneb y methiannau?”
“Ydw, dw i’n credu ein bod hi’n bendant wedi myfyrio ar hynny, a dw i ddim yn credu ein bod ni’n twyllo’n hunain tan hynny chwaith… Rydyn ni’n cydnabod fod gennym ni ffordd bell i fynd.”
Eglurodd fod dau aelod o’r bwrdd wedi arwain adolygiad trylwyr o’r broses o drafod cytundebau, ac mae disgwyl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi’n llawn dros yr wythnosau nesaf.
“Roedd nifer o fethiannau… ond doedden nhw ddim yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail rhyw,” meddai, wrth feirniadu “camadrodd” gan y Daily Telegraph ynghylch casgliadau’r adolygiad.
‘Rhwystredigaeth’
“Aeth pawb i mewn yn llawn bwriad da ond… cododd tensiwn a rhwystredigaeth yn ystod y broses,” meddai Abi Tierney wrth y pwyllgor.
Eglurodd Richard Collier-Keywood gasgliadau’r adolygiad.
“Dw i ddim yn credu ein bod ni, fel Undeb Rygbi Cymru, wedi amlinellu proses glir fel bod pawb wedi prynu mewn iddi,” meddai.
“Doedden ni ddim yn glir ynghylch rolau unigolion yn y broses honno, o safbwynt Undeb Rygbi Cymru nac, yn benodol, y bobol roedd y chwaraewyr yn credu fyddai’n eu cynrychioli nhw.
“Doedden ni ddim wedi gwerthfawrogi’n llawn y ffaith ein bod ni’n ymdrin â sefyllfa lle roedd gennym ni chwaraewyr mewn amgylchfydd perfformiad uwch, ond oedd hefyd dan gytundeb fel gweithwyr Undeb Rygbi Cymru.”
Cyfeiriodd at y ffaith fod dynion dan gytundeb gyda’u rhanbarthau.
“Doedden ni ddim yn trin y menywod fel gweithwyr hyd eitha’r term hwnnw.
“Roedd hynny’n ddryslyd ac yn anodd, a doedden ni ddim yn cwblhau ein dyletswydd tuag at y menywod.”
‘Addewidion gwag’
Fe wnaeth Delyth Jewell, sy’n cadeirio Pwyllgor Diwylliant y Senedd, gwestiynu cynnydd ar argymhellion a wnaed gan adolygiad annibynnol Anne Rafferty yn 2023.
Fe wnaeth Abi Tierney dderbyn nad oedd Undeb Rygbi Cymru wedi cyrraedd y safonau disgwyliedig, gan bwysleisio bod “newid trawsnewidiol yn anodd”.
“Byddwn i’n dweud bod cydweithwyr wir yn teimlo hynny ar hyn o bryd, ac y bydd yn cymryd amser cyn i bethau deimlo’n well, dw i’n meddwl,” meddai.
“Mae blynyddoedd o ddiwylliant blaenorol yn cymryd amser i’w newid, ac ydyn, rydyn ni’n ddiamynedd wrth geisio gwneud hynny, ond rydyn ni hefyd yn realistig yn nhermau peidio rhoi addewidion ffug,” meddai Richard Collier-Keywood.
Wrth gael ei holi am golled o £7.5m yn y cyfrifon diweddaraf, dywedodd wrth Aelodau’r Senedd fod Undeb Rygbi Cymru ar y trywydd iawn i dynnu £5m allan o’u costau eleni.
“Rydyn ni’n dau bellach yn credu bod ein cyllid yn fwy cynaliadwy,” meddai, gan egluro bod Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud elw o £24m, ond eu bod nhw wedi tynnu ar arian wrth gefn er mwyn dyrannu £31m.”
‘Clogwyn o wydr’
Wrth iddi wynebu pwysau ynghylch yr effaith ar gyfranogiad, dywedodd Abi Tierney wrth y pwyllgor ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 27) ei bod hi’n “drist” y gallai pryderon ynghylch diwylliant droi menywod a merched i ffwrdd.
“Dw i’n credu y byddai’n annheg pe bawn i’n eistedd yma a dweud na fydd gennym ni ragor o benawdau byth eto, oherwydd dw i’n credu mai taith yw diwylliant.
“Sut rydyn ni’n ymateb i’r penawdau hynny sydd mor bwysig.”
Dywedodd Hannah Blythyn, cyn-weinidog oedd fu’n gyfrifol am waith teg yng Nghymru am gyfnod, nad yw hi’n eiddigeddus ynghylch y dasg sydd gan y Prif Weithredwr wrth geisio gwrthdroi Undeb Rygbi Cymru.
“Rydyn ni wedi clywed am y to o wydr, ond mae yna glogwyn o wydr – tueddiad i fenywod ddod i mewn ar adeg pan fo cwmni neu sefydliad ar ymyl y dibyn.”