Mae tîm pêl-droed menywod Cymru drwch blewyn i ffwrdd o greu hanes, wrth anelu i hawlio’u lle yng nghystadleuaeth Ewro 2025.

Bydd tîm Rhian Wilkinson yn herio Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Wener, Tachwedd 29).

Mae’r tîm eisoes wedi cyrraedd y gemau ail gyfle, a bydd yn rhaid iddyn nhw chwarae yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon dros ddau gymal, gyda’r ail gymal i ddod yn Nulyn nos Fawrth (Rhagfyr 3).

Bydd y gic gyntaf am 7:15yh heno, ac mae disgwyl i’r dorf fod yn fwy nag erioed, gyda’r nifer fwyaf erioed o docynnau ar gyfer gêm menywod yng Nghymru wedi’u gwerthu.

“Gêm glos” yn rhwng y cefndryd Celtaidd

Dyma’r gêm “fwyaf yn hanes tîm y merched hyd yn hyn”, a’r agosaf maen nhw wedi dod i sicrhau eu lle mewn twrnament o’r fath, yn ôl Catrin Heledd.

“Pan mae rhywun yn edrych ar y gwrthwynebwyr, mae [Cymru] wedi curo Iwerddon yn gynharach yn y flwyddyn, er fydden i ddim yn darllen gormod i mewn i hynny achos mi oedden nhw’n dîm gwannach ar y pryd,” meddai wrth golwg360.

“Ond, ryw bum safle sy’n ein gwahanu ni ar restr detholion y byd, ac mae nifer o’r merched yma’n chwarae gyda’i gilydd, felly maen nhw’n adnabod ei gilydd yn dda iawn.

“Mae’r pêl-droed yn eithaf tebyg, maen nhw’n gefndryd Celtaidd.

“Felly, o ran gêm, rwy’n meddwl y bydd y cymal cyntaf heno yn cagey – dyna’r gair rwy’ am ei ddefnyddio – mae’n mynd i fod yn glos.

“Y gair mae Rhian Wilkinson wedi’i ddefnyddio yw beatable, felly maen nhw’n gwybod fod ganddyn nhw ddigon yn y banc i allu curo Iwerddon.

“Maen nhw wedi cael canlyniadau da yn erbyn timau sy’n gryfach na nhw yn y gorffennol, felly rwy’n meddwl ei fod yn well mewn ffordd eu bod nhw ddim yn mynd mewn i’r gemau hyn fel ffefrynnau.

“Rwy’n meddwl y bydd tipyn o frwydr dros y ddwy gêm – cagey, efallai, yn y cymal gyntaf ond erbyn yr ail gymal, bydd y ddau dîm yn sylweddoli – go hard or go home.

“Bydd yn rhaid iddyn nhw berfformio, neu mi fydd y freuddwyd ar ben.”

Sêr

Mae ymgyrch tîm pêl-droed menywod Cymru i gyrraedd Ewro 2025 eisoes wedi bod yn dipyn o siwrne, wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Slofacia yn eu hail gêm ym mis Hydref, ac yn erbyn Croatia ym mis Gorffennaf.

Ond mae Catrin Heledd yn tybio y bydd angen ymrwymiad eu sêr heno er mwyn mynd ymhellach, a bod hynny wedi dod i’r amlwg yn sgil eu habsenoldeb yn y cymal cyntaf yn erbyn Slofacia.

“Dw i ddim yn credu bod Cymru wedi bod mewn sefyllfa debyg ers 2019, pan oedd un neu ddwy ddim yn chwarae mewn gêm,” meddai.

“Felly, mae’n dangos eu bod nhw yn ddibynnol ar y sêr, y pillars o fewn y tîm.

“Ond o dan Rhian Wilkinson, maen nhw wedi arbrofi gyda mwy o chwaraewyr newydd; dydy’r unarddeg ddim yn dewis eu hunain rhagor.

“Mae yna berfformiadau yna, maen nhw angen eu sêr, ac maen nhw angen i rywun fel Jess Fishlock fod ar ei gorau.

“Mae Jess Fishlock yn ysu i gael ei gwneud hi i brif bencampwriaeth, felly dw i ddim yn meddwl y bydd neb gyda mwy o dân yn eu bol na Jess heno, pan fydd hi yn gwneud popeth posib i geisio sicrhau bod Cymru yn ei gwneud hi i dwrnament mawr am y tro cyntaf.”

Merched yn chwarae pêl-droed wedi’i ‘normaleiddio’

Mae dros 15,000 o docynnau eisoes wedi’u gwerthu ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno  – sef y nifer mwyaf o docynnau yn hanes pêl-droed menywod Cymru.

Dywed Catrin Heledd ei bod yn gweld “twf enfawr” ymhlith merched sy’n meddwl bod chwarae pêl-droed yn “norm” iddyn nhw erbyn hyn.

“Dwy flynedd yn ôl, mi es i i Glwb Pêl-droed Rhydaman i weld criw o ferched yn chwarae pêl-droed, ac mi oeddwn i’n disgwyl gweld pymtheg neu ugain o blant.

“Dw i wir yn meddwl fod yna ryw 200, os nad mwy, o ferched ifainc yn chwarae. Mi oedd e’n eithaf syfrdanol.

“Mynd i weld merched yn chwarae pêl-droed yn Stadiwm Dinas Caerdydd, dyma’r norm, dyw e ddim yn beth od, a does dim cywilydd ynddo fe

“Rwy’n meddwl fod cymaint mwy o ferched yn dangos diddordeb mewn pêl-droed ar lawr gwlad erbyn hyn.

“Mae’n normaleiddio’r gamp – ei normaleiddio i ferched – ac yn hwb enfawr o ran cyfranogiad.”