Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Terry Griffiths, cyn-bencampwr snwcer y byd, sydd wedi marw’n 77 oed.

Roedd wedi bod yn byw â dementia ers tro.

Y Cymro o Lanelli oedd pencampwr y byd yn 1979 – y pencampwr cyntaf erioed i gyrraedd y twrnament trwy’r rowndiau cymhwyso – ar ôl curo Dennis Taylor o 24-16.

Roedd e hefyd yn bencampwr y Meistri yn 1980 a Phencampwriaeth y Deyrnas Unedig yn 1982.

Daeth ei gêm broffesiynol olaf yn rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd yn erbyn Mark Williams.

Yn ogystal â bod yn chwaraewr snwcer, fe fu hefyd yn löwr, yn dywysydd bws, yn bostmon ac yn weithiwr yswiriant.

Ar ôl ymddeol o’r gamp, daeth yn sylwebydd a dadansoddwr gyda’r BBC, ac yn hyfforddwr ar nifer o sêr y gamp, gan gynnwys Mark Williams a Stephen Hendry.

Roedd ganddo fe glwb snwcer yn Llanelli, y Terry Griffiths Matchroom, lle byddai’n cynnal cystadlaethau a sesiynau hyfforddi.

Daw ei farwolaeth bum mis yn unig ar ôl colli un arall o fawrion snwcer Cymru, Ray Reardon.

‘Cymro balch’

“I’n ffrindiau a dilynwyr snwcer yn gyffredinol, rydyn ni’n drist iawn wrth rannu’r newyddion am ein colled,” meddai ei fab Wayne ar Facebook.

“Bu farw Terry Griffiths OBE yn dawel ar Ragfyr 1, ar ôl brwydr hir â dementia.

“Roedd ei deulu o’i gwmpas yn ei dref gartref annwyl yn ne Cymru.

“Yn Gymro balch, cafodd Terry ei eni yn Llanelli, ac fe ddaeth â balchder i Lanelli, a nawr mae e wedi canfod heddwch yn Llanelli.”

Dywed World Snooker Tour ei fod e “wedi’i garu a’i barchu gan bawb yn y gamp”.

Teyrngedau

“Dw i’n drist iawn i glywed am farwolaeth Terry Griffiths fu’n gefnogol iawn i mi,” meddai’r sylwebydd a gohebydd Gareth Blainey wrth dalu teyrnged iddo.

“Dyn hoffus a gŵr bonheddig.”

Dywed Jason Mohammad, sy’n cyflwyno rhaglenni snwcer y BBC, ei fod “mor drist o glywed y newyddion”.

“Diolch Terry am roi Cymru ar y map chwaraeon – am eich sylwebaeth gain, y sgyrsiau a’r cynhesrwydd yn y stiwdio.

“Wna i fyth anghofio sut y gwnaethoch chi fy nghroesawu i’r teulu snwcer wrth ymuno â thîm teledu’r BBC.”

Roedd Terry Griffiths yn llywydd ar Gymdeithas Snwcer a Biliards Cymru.

“Rydyn ni’n drist iawn wrth gyhoeddi marwolaeth Llywydd y WBSA, Terry Griffiths OBE,” medden nhw.

“Anfonwn ein cydymdeimladau dwysaf at deulu Terry.”

Ymhlith y chwaraewyr o Gymru sydd wedi talu teyrnged iddo fe mae Mark Williams, ddaeth yn bencampwr byd yn 2000, cyn mynd yn ei flaen i ennill y twrnament eto yn 2003 a 2018.

Dywed y chwaraewr o Went fod Terry Griffiths wedi gofalu amdano “ers chwarae yn ei glwb bob dydd Sul” er pan oedd e’n ddeuddeg oed.

Ychwanega ei fod yn “fentor, hyfforddwr, ffrind, lejend”.

Un arall gafodd ei hyfforddi ganddo yw Mark Allen o Ogledd Iwerddon.

Dywed fod Terry Griffiths wedi siapio’i yrfa a’i fywyd “ar y bwrdd ac oddi arno”, gan ychwanegu ei fod yn torri’i galon.

“Nid dim ond hyfforddwr oedd e; roedd e’n aelod o’r teulu,” meddai.