Mae’r gohebydd snwcer Gareth Blainey wedi talu teyrnged i Terry Griffiths, cyn-bencampwr y byd fu farw’n 77 oed, gan ddweud ei fod yn “un o’r ffigurau pwysicaf ym myd chwaraeon Cymru”.

Daeth y newyddion neithiwr (nos Sul, Rhagfyr 1) fod pencampwr y byd yn 1979 wedi marw ar ôl bod yn byw â dementia.

Roedd yn un o griw dethol o unarddeg o chwaraewyr oedd wedi ennill “coron driphlyg” snwcer, sef Pencampwriaeth y Byd, y Meistri a Phencampwriaeth y Deyrnas Unedig.

Mae hefyd yn un o dri Chymro – ynghyd â Mark Williams a Ray Reardon – sydd wedi bod yn bencampwr byd.

Doug Mountjoy, Gary Owen, Matthew Stevens a Jak Jones yw’r Cymry eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ond heb ennill y tlws.

“Dw i’n meddwl am y triawd – Doug Mountjoy, ynghyd â Ray [Reardon] ychydig fisoedd yn ôl, a rŵan Terry,” meddai Gareth Blainey wrth golwg360.

“Mae’r tri ohonyn nhw wedi mynd rŵan, a’r tri ohonyn nhw ymhlith y chwaraewyr gorau yn y byd.

“Mae yna dristwch mawr, wrth gwrs, ond dw i’n meddwl ei bod hi’n deg dweud ei fod o’n un o’r ffigurau pwysicaf ym myd chwaraeon Cymru – fyswn i’n mynd mor bell â hynny.

“Wnaeth o gyrraedd y brig, a wnaeth o lwyddo i ennill Pencampwriaeth y Byd.

“Roedd Annette, gwraig Terry, a gwraig Dennis Taylor ar y pryd yn ffrindiau mawr.

“Roedden nhw wedi mynd am bryd o fwyd efo’i gilydd ar ôl y rownd derfynol, a Terry wedi gofyn i Dennis, “Ydy e’n iawn os ydw i’n rhoi’r tlws yng nghwt dy gar di?”

“Mae’n sôn am hyn yn ei hunangofiant – dyna’r math o gymeriad oedd o!”

Hyfforddi’r goreuon

Ar ôl colli yn erbyn Mark Williams yn rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd yn 1997, fe wnaeth Terry Griffiths ymddeol o fod yn chwaraewr, gan droi ei sylw at sylwebu a hyfforddi.

Mae Williams ymhlith y rhai y bu’n eu hyfforddi, yn ogystal â Chymro arall, Matthew Stevens, Mark Allen, Ding Junhui, a Barry Hawkins, gyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig neithiwr cyn colli yn erbyn Judd Trump.

Felly, beth oedd yn gwneud Terry Griffiths yn hyfforddwr a sylwebydd da?

“Roedd yr hiwmor a’r ffraethineb yn rhan ohono fo, ond roedd yr hygrededd gan Terry hefyd, wrth gwrs,” meddai Gareth Blainey.

“Dw i’n meddwl bod rhaid i ni gofio, nid yn unig fod o wedi ennill Pencampwriaeth y Byd, ond wnaeth o ennill Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig a’r Meistri, sef y ‘Goron Driphlyg’ ym myd snwcer, a dim ond unarddeg o chwaraewyr sydd wedi gwneud hynny.

“Roedd o’n un o’r prif chwaraewyr yn y byd am gyfnod hir, a dweud y gwir.

“Wnaeth o gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd eto yn 1988 a cholli i Steve Davis, a wnaeth o ddal ati tan 1997 a phenderfynu ymddeol wedyn.

“Roedd o’n 23ain yn y byd ar y pryd, ac mi gollodd o yn erbyn Mark Williams yn y Crucible a phenderfynu rhoi’r gorau iddi.

“Dw i’n ei gofio fo’n sôn am hyn wrtha’i.

“Wnaeth o benderfynu parhau â’i gysylltiad â snwcer fel sylwebydd, ond hefyd fel hyfforddwr.

“Roedd o jyst yn rhywun oedd yn uchel ei barch, yn boblogaidd, yn ddyn hoffus iawn ac yn gymeriad hyfryd.

“Atgofion melys yn unig sydd genna’i o Terry.”

Sylwebu

Yn ôl Gareth Blainey, fe fu Terry Griffiths yn “garedig iawn” â fe pan ddechreuodd sylwebu ar y byd snwcer o’r Crucible yn Sheffield yn 2015.

“Roedd o’n groesawgar iawn,” meddai.

“Wedyn, dros y blynyddoedd wedyn, mi ddois i i’w nabod o a dod yn dipyn o ffrindiau efo fo.

“Doedd dim byd yn ormod o drafferth.

“Roedd o wrth ei fodd yn hel atgofion am ei yrfa, a wastad yn barod i siarad am chwaraewyr presennol o Gymru i roi ei farn.

“Ro’n i’n parchu ei farn o oherwydd, yn amlwg, roedd o wedi bod yn bencampwr y byd.

“Mae honno’n stori ryfeddol, ei fod o wedi ennill Pencampwriaeth y Byd ar y cynnig cyntaf ’nôl yn 1979.

“Ac roedd o wedi gwneud dipyn o swyddi gwahanol – roedd o wedi bod yn löwr, yn bostmon, roedd o wedi gweithio ym myd yswiriant, ac wedi gweithio ar y bysus.

“Roedd o’n gymeriad mor hoffus, yn ddyn ffraeth iawn.

“Beth sy’n drist iawn ydy, dros y blynyddoedd diwethaf, gafodd ei daro gan ddementia.

“Y cysylltiad uniongyrchol diwetha’ ges i â Terry rai blynyddoedd yn ôl oedd cyfnod Covid, a wnes i anfon neges iddo fo.

“Dw i’n dal i gadw cysylltiad efo un o’r meibion, Wayne, ar e-bost, a wnes i e-bostio ddim yn hir iawn yn ôl yn gofyn sut oedd Terry.

“Mae’r peth mor drist, ac mae’n salwch mor greulon, yn enwedig i rywun fel fo oedd mor ffraeth a’r hiwmor sych oedd gynno fo.”

‘Parod iawn ei gymwynas’

Mae un achlysur pan fu’r ddau yn cydweithio’n sefyll yn y cof i Gareth Blainey.

“I danlinellu mor barod oedd Terry i fy helpu i ac i wneud cyfweliad, mi wnaethon ni drio dechrau recordio cyfweliad un tro yn y Barbican yng Nghaerefrog, adeg Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig, ac roedd hi braidd yn swnllyd yno!” meddai.

“Dyma fi’n gofyn i Terry, ‘Beth am i ni fynd ’nôl i’r gwesty?’

“Ro’n i’n aros mewn gwesty ddim yn bell o’r Barbican, a dywedodd o, ‘Ie, popeth yn iawn, ddo’i draw’.

“Aethon ni draw a ffeindio ryw stafell oeddan ni’n meddwl oedd yn dawel, a dyma ddynes yn dechrau hwfro!

“Felly roedd rhaid i ni stopio’r cyfweliad ac yn y diwedd, roedd rhaid i ni fynd i’n stafell i yn y gwesty.

“Roedd digon o amser ac amynedd gan Terry, ac roedd o’n ddigon hapus i wneud y cyfweliad efo fi yn fy stafell wely yn y gwesty!

“Recordio ar y ffôn oeddwn i, ac roedd angen tawelwch er mwyn i’r cyfweliad allu cael ei ddarlledu.

“Roedd o jyst yn ddyn parod iawn ei gymwynas wastad.”

Teyrngedau i Terry Griffiths, cyn-bencampwr snwcer y byd

Roedd y Cymro o Lanelli’n 77 oed, ac wedi bod yn byw â dementia