Mae Marc Guehi, cyn-amddiffynnwr Clwb Pêl-droed Abertawe, dan y lach ar ôl ysgrifennu neges grefyddol ar fand braich sy’n hybu hawliau LHDTC+.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn dweud y byddan nhw’n atgoffa chwaraewr Crystal Palace, a’i glwb, ynghylch y gwaharddiad ar negeseuon crefyddol ar ddillad ac offer ar gyfer gemau.

Ysgrifennodd Guehi, fu ar fenthyg gyda’r Elyrch mewn dau gyfnod gwahanol rhwng 2020 a 2021, y neges ‘Dw i’n caru’r Iesu’ ar freichled enfys y capten dros y penwythnos.

Does dim hawl gan chwaraewyr arddangos negeseuon crefyddol ar ddillad nac offer yn ystod gemau.

Ond mae’r enfys wedi dod yn symbol o gefnogaeth i hawliau LHDTC+ – neges sydd wedi’i hyrwyddo gan yr awdurdodau chwaraeon trwy’r elusen Stonewall ers tro.

Mae disgwyl i’r enfys fod yn weladwy ar gyfer gemau’r wythnos hon hefyd.

Does dim rhaid i gapteniaid wisgo’r band am eu breichiau – ymhlith y rhai sydd wedi dewis peidio ei wisgo mae Sam Morsy, capten Ipswich, sy’n Fwslim.