Mae’r ornest bêl-droed rhwng menywod Cymru a Gweriniaeth Iwerddon heno (nos Fawrth, Rhagfyr 3) wedi cael ei disgrifio gan y capten Angharad James fel “gêm fwyaf” eu bywydau.

Gorffennodd cymal cyntaf rownd derfynol gemau ail gyfle Ewro 2025 yn gyfartal 1-1 yng Nghaerdydd nos Wener (Tachwedd 29), wrth i’r cefndryd Celtaidd lygadu lle yn y gystadleuaeth Ewropeaidd y flwyddyn nesaf.

Hwn fyddai twrnament cyntaf erioed Cymru.

Ac fe fyddai’n dipyn o uchafbwynt yng ngyrfa’r rheolwr Rhian Wilkinson hefyd, a hithau ond wedi’i phenodi i swydd rheolwr Cymru ym Mis Chwefror.

Dywed na fuodd hi “erioed yn fwy blach o griw o bobol”.

Mae disgwyl i 400 o gefnogwyr Cymru deithio i Stadiwm Aviva yn Nulyn ar gyfer y gêm fawr, ac fe fydd Cymru’n gobeithio tawelu’r Gwyddelod fydd yn y dorf o 25,000.

Y timau

Does gan Gymru ddim pryderon newydd o ran anafiadau.

Byddan nhw’n dod i’r cae yn Iwerddon heb eu cyn-gapten Sophie Ingle, sydd allan ar ôl cael llawdriniaeth ar ei phenglin, ond sydd wedi teithio gyda’r garfan ar gyfer y gêm dyngedfennol.

Mae gan Elise Hughes anaf i’w phenglin hithau hefyd.

Bydd yn rhaid i Weriniaeth Iwerddon ymdopi heb Aoife Mannion, sydd wedi anafu cyhyr.

Mae Jamie Finn, Ellen Molloy, Louise Quinn, Lucy Quinn a Jess Ziu i gyd allan hefyd.