Mae arweinwyr heddluoedd Cymru’n ystyried craffu o’r newydd ar y trothwy cosb tramgwyddwyr ar heolydd 20m.y.a., yn ôl adroddiadau.

Mae Andrew RT Davies wedi beirniadu’r sïon ar wefan WalesOnline, ond mae Llywodraeth Cymru’n mynnu nad eu cyfrifoldeb nhw ydy pennu trothwyon.

Ar hyn o bryd, dim ond os yw’r car yn cael ei ddal yn teithio dros 26 milltir yr awr y caiff gyrwyr eu cosbi.

Am ychydig fisoedd wedi cyflwyno’r polisi dadleuol ym mis Medi 2023, roedd cyfnod gras i ddod i’r arfer â’r newidiadau, a doedd tramgwyddwyr ddim yn cael eu herlyn.

Ond fis Ionawr diwethaf, dan arweiniad GanBwyll, cafodd trothwy o 26m.y.a. ei gyflwyno.

Mae hyn yn eithriad i’r arfer cyffredinol, sef cosbi’r rheiny sy’n gyrru dros 10% a dwy filltir yr awr dros y terfyn cyflymder.

Mae sôn bellach fod penaethiaid heddluoedd Cymru’n ystyried dychwelyd at y rheol honno wedi cyfarfod ym mis Mawrth eleni.

Os mai dyna fydd penderfyniad yr heddlu, mi fydd y trothwy cosb yn gostwng i 24m.y.a.

‘Lloerig’

Er gwaethaf data gan Lywodraeth Cymru sy’n awgrymu bod nifer y gwrthdrawiadau a’r anafiadau wedi gostwng yn sylweddol ers cyflwyno’r polisi, mae’r terfyn cyflymder yn parhau i fod yn bwnc llosg.

Mae Andrew RT Davies, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac Aelod y Senedd dros Ganol De Cymru, yn credu y byddai gostwng y trothwy’n gamgymeriad difrifol.

Mae’n honni na fydd ceir yn medru gwahaniaethu’n ddigonol er mwyn bodloni trothwy ar gyflymder mor isel.

“Mi fyddai gollwng y trothwy’n beth lloerig,” meddai.

“Mae’r polisi 20m.y.a. yn ddigon gwallgof hyd yn oed heb osod trothwy mae’n anodd iawn i’w fodloni ar gyflymder mor isel.

“Mae angen cefnu ar fethiant arbrawf 20m.y.a. y Blaid Lafur.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i’r sylwadau hyn, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360 mai “mater i’r heddlu” ac nid y Llywodraeth ydy pennu trothwyon ar derfynau cyflymder.