Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi mynegi “pryder dwys” ynghylch sefyllfa bresennol y clwb.
Mae’r Adar Gleision heb reolwr ers iddyn nhw ddiswyddo Erol Bulut ddiwedd mis Medi.
Ar y pryd, roedden nhw ar waelod y Bencampwriaeth ar ôl ennill dim ond un pwynt mewn chwe gêm ar ddechrau’r tymor.
Omer Riza sydd wedi bod yng ngofal y clwb dros dro ers hynny, ac maen nhw wedi codi allan o safleoedd y gwymp i ugeinfed yn y tabl.
Wrth anfon y llythyr, dywed Bwrdd Ymgynghorol Cefnogwr Clwb Pêl-droed Caerdydd fod yna “unfrydedd a chytundeb llwyr” wrth iddyn nhw fynegi “pryder dwys am sefyllfa bresennol y clwb”.
Maen nhw’n gofyn i’r perchennog, cadeirydd a phrif weithredwr am “sgwrs adeiladol”, yn enwedig am “gynllun tymor byr a hirdymor i’r clwb.”
Maen nhw’n dweud bod y clwb mewn “sefyllfa simsan” tua gwaelod y tabl, “heb reolwr llawn amser, heb eglurder ar y broses gyflogi, a heb gynllun na strategaeth”.
Maen nhw hefyd yn “rhwystredig” am “ddiffyg cyfathrebu” gan y perchennog Vincent Tan, medden nhw, sy’n gadael Omer Riza “mewn sefyllfa amhosib” wrth orfod ateb cwestiynau ar ran y clwb.
Ymhellach, maen nhw’n rhybuddio am “natur wenwynig ac apathi” y sefyllfa, allai fod yn “ddi-droi’n-ôl”.
Maen nhw’n dweud bod yna “gylch o fethiant tragwyddol”, a bod y cefnogwyr yn colli hyder yn y clwb.
Wrth gyflogi saith rheolwr gwahanol dros y pedair blynedd diwethaf, maen nhw’n dweud eu bod nhw’n poeni nad yw’r clwb wedi dysgu gwersi’r gorffennol.
Wrth gyfeirio at benaethiaid y clwb, maen nhw’n rhybuddio am “ddifyg arweinyddiaeth, strategaeth gyffredinol a gwybodaeth am bêl-droed” o fewn y clwb.
Maen nhw’n galw am gyfathrebu ar unwaith â’r cefnogwyr, cynllun “clir a chredadwy” at y dyfodol, a “thryloywder a gonestrwydd llwyr”.