Mae Liam Williams, cefnwr tîm rygbi Cymru, wedi ailymuno â’r Saraseniaid yn Lloegr tan ddiwedd y tymor hwn.

Mae’n dychwelyd ar ôl treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn Japan gyda’r Kubota Spears.

Mae e wedi ennill 91 o gapiau dros Gymru ers ei gêm gyntaf yn y crys coch yn 2012, ac wedi bod ar ddwy daith gyda’r Llewod.

Ar ôl dechrau ei yrfa gyda Llanelli, enillodd e wobr Chwaraewr y Flwyddyn yn ei drydydd tymor.

Symudodd i’r Saraseniaid yn 2017, ac roedd e’n aelod o’r tîm enillodd Gwpan y Pencampwyr ac Uwch Gynghrair Lloegr yn 2019-20.

Dywed ei fod e wedi penderfynu peidio dychwelyd i Japan gan fod ei wraig yn feichiog, a bod y Saraseniaid wedi cysylltu i ofyn am ei argaeledd, gan fod ganddyn nhw anafiadau yn y garfan.

“Wnaeth hi ddim cymryd yn hir i ddweud ‘Ie’,” meddai.

“Wnes i wir fwynhau fy nghyfnod blaenorol gyda’r clwb.

“Roedd yn amser arbennig yn fy ngyrfa, gyda’r clwb hefyd yn ennill sawl tlws, ac fe wnaeth diwylliant unigryw’r clwb adael ei farc arna i.

“Alla i ddim aros i ymuno â’r garfan ar ôl genedigaeth fy mhlentyn cyntaf, a’u helpu nhw i gyflawni eu nodau.”

Dywed Mark McCall, Cyfarwyddwr Rygbi’r Saraseniaid, fod Liam Williams yn “chwaraewr o safon fyd-eang”.