Mae Rassie Erasmus, prif hyfforddwr tîm rygbi De Affrica, wedi canmol y croeso Cymreig gafodd y tîm dros y penwythnos.

Fe wnaethon nhw roi crasfa o 45-12 i dîm Warren Gatland, sydd dan bwysau ar ôl llywyddu dros ddeuddegfed colled Cymru o’r bron – eu rhediad gwaethaf erioed, a’r tro cyntaf iddyn nhw orffen blwyddyn galendr heb fuddugoliaeth ers 1937.

Roedd De Affrica, sy’n bencampwyr y byd ar hyn o bryd, yn rhy gorfforol gryf i dîm di-brofiad Cymru.

Daeth ceisiau gan Franco Mostert ac Eben Etzebeth o fewn wyth munud i roi eu tîm ar ben ffordd, cyn i Aphelele Fassi, Gerhard Steenekamp a seren y gêm Jordan Hendrikse groesi’r gwyngalch.

Daeth ceisiau cysur i Rio Dyer a James Botham wrth i Gymru lwyddo i osgoi eu colled waethaf erioed ar eu tomen eu hunain.

Yn dilyn blwyddyn siomedig, bydd Undeb Rygbi Cymru’n cynnal adolygiad allai arwain at ddiswyddo Warren Gatland.

Mae disgwyl i’r adolygiad gael ei gwblhau erbyn y Nadolig.

Dywed Gatland ei fod e eisiau parhau yn ei swydd.

‘Emosiynol’

“Mae’r Cymry bob amser yn ei gwneud hi’n eiliad arbennig ac emosiynol o’r daith fws i’r stadiwm dan arweiniad ceffylau,” meddai Rassie Erasmus.

“Wrth fynd i mewn i’r stadiwm, mae côr yn eich cyfarch chi, a band milwrol traddodiadol go iawn cyn y gêm!

“Yn bersonol, dw i’n caru’r profiad!

“Diolch.”