Mae’r Cymro Steve Cooper wedi cael ei ddiswyddo gan Glwb Pêl-droed Caerlŷr, ar ôl rhediad o bedair gêm heb fuddugoliaeth.

Yn dilyn diswyddiad cyn-reolwr Abertawe, mae un arall o gyn-reolwyr yr Elyrch, Graham Potter, ymhlith y ffefrynnau i’w olynu.

Daeth diswyddiad Cooper dros y penwythnos ar ôl colled o 2-1 yn erbyn Chelsea.

Mae’r clwb ddau bwynt yn unig uwchlaw safleoedd y gwymp, gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn deuddeg gêm.

Dim ond Wolves a Southampton sydd wedi ildio mwy o goliau y tymor hwn.

Yn sgil ymadawiad Cooper, mae Alan Tate a Steve Rands, dau gyn-hyfforddwr Abertawe, hefyd wedi gadael y clwb.