Mae cynnig gan grŵp cymunedol yn Llanfrothen i brynu hen dafarn yn y dre newydd gael ei dderbyn, ac mae aelod o’r grŵp yn dweud y bydd yn “hwb” i’r gymuned leol.

Bu’n rhaid cau tafarn y Brondanw Arms, sydd hefyd yn adnabyddus fel Y Ring, yn fyr rybudd fis Medi eleni.

Ond yn dilyn ymgyrch gan grŵp Menter y Ring, fe lwyddodd y gymuned i godi’r benthyciadau oedd eu hangen er mwyn gwneud cynnig am y prydles, ac mae’r cynnig hwnnw bellach wedi’i dderbyn.

Mae disgwyl y bydd modd i drigolion wneud ceisiadau am gyfranddaliadau ar ddechrau’r flwyddyn nesaf, pan fydd perchnogaeth wedi’i throsglwyddo’n llawn.

‘Cymryd rheolaeth’

Fe soniodd Dafydd Emlyn, un o aelodau pwyllgor Menter y Ring, am hanes y grŵp cymunedol a’u cais am berchnogaeth ar y dafarn.

“Mi gaethon ni bythefnos o rybudd ym mis Medi’n dweud bod y dafarn yn mynd i gau ac, wedi i ni gael cyfarfod cyhoeddus, fe drefnon ni Gymdeithas Budd Cymunedol Menter y Ring,” meddai Dafydd Emlyn, un o aelodau pwyllgor Menter y Ring, am hanes y grŵp cymunedol a’u cais am berchnogaeth ar y dafarn, wrth golwg360.

Math o fusnes ydy Cymdeithas Budd Cymunedol, sy’n boblogaidd fel modd o drefnu neu berchen ar gyrff nad ydyn nhw er elw, ac mae rhagdybiaeth fod cydraddoldeb sylfaenol rhwng holl gyfranogwyr y busnes.

Roedd trefnu Menter y Ring yn galluogi’r gymuned i “gymryd rheolaeth o’r dafarn a gwneud cynnig swyddogol am y lle”, yn ôl Dafydd Emlyn.

Mae’r cynnig hwnnw bellach wedi’i dderbyn gan Fragdy Robinson’s, perchnogion y dafarn sydd â’u pencadlys ym Manceinion.

Roedd disgwyl y byddai’r prydles wedi bod gan y cwmni hwnnw am 28 mlynedd yn rhagor pe na bai’r cynnig hwn wedi’i gyflwyno.

‘Lot o waith’ – ond ‘mwy na jyst tafarn’

Roedd rhaid defnyddio’r benthyciadau roedd Menter y Ring wedi’u casglu er mwyn dangos i’r asiant y bydden nhw’n medru fforddio talu.

Bydd cyfranddaliadau pellach yn sicrhau’r tua £200,000 sydd ei angen er mwyn adfer y dafarn, ar ben y ddau grant sydd wedi’u cynnig i’r fenter eisoes.

Mae disgwyl mai ym mis Mawrth neu fis Ebrill y bydd modd ail-agor y dafarn.

“Mae yna lot o waith angen ei wneud,” meddai Dafydd Emlyn wedyn.

“Ond mi fydd e’n hwb i’r gymuned – yn fwy na jyst tafarn.”

Bydd Menter Y Ring yn rhedeg stondin yng Ngŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion y penwythnos nesaf (Rhagfyr 6-8), a’r nod fydd hel enwau a dosbarthu gwybodaeth ynghylch cyfranddaliadau’r flwyddyn nesaf.

Cymuned Llanfrothen yn cyrraedd y targed i brynu les tafarn y Ring

Cadi Dafydd

Y bwriad yw rhedeg y Brondanw Arms, neu’r Ring fel mae hi’n cael ei hadnabod yn lleol, fel menter gymunedol

Cymuned Llanfrothen yn anelu i brynu les tafarn y Ring

Cadi Dafydd

“Mae hi’n edrych yn ofnadwy o galonogol y byddan ni yn hitio’r targed”