Mae cymuned Llanfrothen yng Ngwynedd wedi cyrraedd eu targed er mwyn gallu gwneud cynnig i brynu les eu tafarn leol.
Y bwriad yw rhedeg y Brondanw Arms, neu’r Ring fel mae hi’n cael ei hadnabod yn lleol, fel menter gymunedol.
Er mwyn sicrhau’r les, roedd gan Fenter y Ring wythnos i sicrhau cefnogaeth ariannol gwerth £200,000 gan unigolion.
Maen nhw wedi cyrraedd y targed, meddai Dafydd Emlyn, un o aelodau pwyllgor Menter y Ring, drwy gytundebau benthyg ffurfiol.
Roedden nhw wedi disgwyl cwrdd â’r asiant heddiw (dydd Llun, Medi 23), ond mi fethodd yr asiant â chyrraedd yn sgil anhawster â’u car.
Mae’r cyfarfod hwnnw wedi’i aildrefnu at ddydd Mercher.
‘Arian mewn lle’
“Mae’r arian yn ei le drwy ffurflenni addewid, rydyn ni wedi cael digon o bobol sy’n addo benthyg pris y gofyn am y lle, ac rydyn ni eisiau rhoi cynnig yn ei le,” meddai Dafydd Emlyn, gan ddweud bod ganddyn nhw bwyllgor nos fory (nos Fawrth, Medi 24), wrth golwg360.
“Ond mae yna bethau yn y cefndir rydyn ni’n gweithio arnyn nhw i hwyluso hynny.
“Yn anffodus, doedd yr asiant ddim yno heddiw achos eu bod nhw wedi torri lawr, ond fe wnaethon nhw adael i ni wybod ac maen nhw wedi ail-drefnu at ddydd Mercher.
“Dydyn ni ddim yn gorfod rhoi’r bid i mewn heddiw.”
Bragdy Robinsons sy’n berchen ar les y Ring, ac roedd ymgyrchwyr yn y pentref wedi bod yn galw arnyn nhw i ryddhau’r les y llynedd.
Roedd disgwyl i Fragdy Robinsons, sydd â’u pencadlys yn Stockport ger Manceinion ac sydd â’r les ar gyfer tua 260 o dafarndai, fod yn berchen ar y les am 28 mlynedd arall.
Unwaith y bydd Menter y Ring wedi gwneud cynnig, bydd ganddyn nhw fwy o amser i ddenu cyfranddaliadau.
Os byddan nhw’n codi digon drwy’r cyfranddaliadau, ni fyddan nhw angen y benthyciadau mwyach i sicrhau’r les.