Mae angen mwy o weithredu ym maes gofal dementia i siaradwyr Cymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Yn ôl papur polisi gan y Comisiynydd “ychydig iawn” o gynnydd sydd wedi’i weld ers iddyn nhw wneud argymhellion ar y cyd â Chymdeithas Alzheimer’s Cymru yn 2018.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gweithio tuag at eu nod o gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol dros bum mlynedd.

Er bod Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, yn nodi bod rhai camau cadarnhaol wedi’u cymryd, gan gynnwys gweld grŵp dementia a’r Gymraeg yn ail-gychwyn cyfarfod, mae angen cynyddu’r momentwm, meddai.

Ymysg yr argymhellion, mae:

  • Sicrhau bod gwerthusiad o Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer dementia yn casglu profiadau cleifion a gofalwyr sy’n siarad Cymraeg.
  • Sicrhau bod cynllun gweithredu nesaf Cymru ar gyfer dementia yn gosod y Gymraeg fel elfen greiddiol.
  • Yr angen i Lywodraeth i arwain ar lunio cynllun cyflawni ar gyfer datblygu llwybrau gofal dementia cyfrwng Cymraeg. Yn rhan o hynny, maen nhw’n galw am flaenoriaethu meysydd fel casglu data, cynyddu ymwybyddiaeth iaith, asesiadau ac adnoddau, a hyfforddiant iaith.

‘Symud yn araf’

Mae Efa Gruffudd Jones hefyd yn argymell creu swydd benodol ar gyfer arwain ar y Gymraeg a dementia er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni.

“Mae chwe blynedd bellach wedi pasio ers i ni gyhoeddi adroddiad ar ofal dementia i siaradwyr Cymraeg,” medd y Comisiynydd.

“Mae’r momentwm oedd yn bodoli yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad hwnnw a sefydlu is-grŵp gweithredu wedi arafu’n sylweddol.

“Rwy’n derbyn y bu i’r pandemig fod yn ffactor yn hynny ond mae angen yn awr ail adeiladu’r momentwm er mwyn gallu cynnig gofal dementia addas drwy’r Gymraeg.”

Ers 2018, mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gorfod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg.

Mae cynllun Mwy na Geiriau newydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys camau gweithredu sy’n ategu gofynion safonau’r Gymraeg.

“Mae’r ffaith fod y grŵp dementia a’r Gymraeg wedi cychwyn cyfarfod eto hefyd i’w groesawu’n fawr, ac rwyf yn gobeithio gweld y grŵp hwn yn cyfrannu at broses Llywodraeth Cymru yn dylunio cynllun dementia newydd ar gyfer Cymru,” ychwanega Efa Gruffudd Jones.

“Ond araf yw’r symud ac wrth i ni nodi ein hargymhellion rydym yn annog hefyd creu swydd benodol er mwyn arwain ar y gwaith hwn achos dyna’r unig ffordd, yn fy marn i, y gallwn symud ymlaen yn briodol ac yn amserol.”

‘Cymraeg yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth’

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “cydnabod yn llwyr” fod y Gymraeg yn elfen allweddol o ofal, yn enwedig wrth drafod pryderon sensitif ac emosiynol a phan fydd cleifion yn newid i’w hiaith gyntaf.

“Rydym yn gweithio tuag at ein nod o gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol dros bum mlynedd, fel y nodir yn ein cynllun Mwy na geiriau,” medd llefarydd ar ran y Llywodraeth.

“Mae’r grŵp Dementia a’r Iaith Gymraeg wedi ailsefydlu’n ddiweddar, a bydd y Gymraeg yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth yn y trefniadau sy’n dilyn y Cynllun Gweithredu ar Ddementia.”

Dementia

“Lle mae’r gweithredu er mwyn gwella’r sefyllfa o ran dementia a’r Gymraeg?”

Cadi Dafydd

“O le ydyn ni am gael yr hyder? Mae’n grêt bod gennym ni’r statws i’r ddwy iaith, ond pam bod o ddim yn gweithio?”