Mae cynlluniau Llywodraeth San Steffan i stopio rhoi cefnogaeth ariannol i bensiynwyr tuag at eu costau tanwydd dros y gaeaf “yn teimlo fel cyni”, medd Plaid Cymru.
Fodd bynnag, mae’r Canghellor Rachel Reeves yn dweud na fyddan nhw’n mynd yn ôl at gyni, er gwaethaf ei rhybuddion am arian cyhoeddus.
Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu cael gwared ar y taliadau tanwydd gaeaf, sydd werth rhwng £200 a £300 y flwyddyn, i tua deng miliwn o bensiynwyr.
Gofynnwyd i Rachel Reeves a oedd hi’n ailadrodd polisïau “cyni” llywodraeth y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010 yn ystod cynhadledd y blaid Lafur heddiw (Medi 23).
Ond, mae hi’n mynnu y bydd “cynnydd mewn gwariant, mewn termau real” yn ystod y Senedd hon.
‘Teimlo’n union fel cyni’
Fodd bynnag, mae Liz Saville Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud bod y polisïau’n teimlo fel cyni.
“Mae Llafur yn honni ‘nad ydyn nhw’n dychwelyd at gyni’ wrth gael gwared ar gefnogaeth tanwydd i bensiynwyr a gwadu ariannu teg i Gymru.
“Mae hynny’n teimlo’n union fel cyni.
“Mae Plaid Cymru’n glir – rydyn ni wir angen buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus, wedi’i ariannu drwy drethi teg.”
Fis Mai, cyn yr etholiad cyffredinol, fe wnaeth Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, feirniadu Rishi Sunak, y cyn-Brif Weinidog, am gynllunio i stopio taliadau tanwydd y gaeaf.
Dywed Plaid Cymru na wnawn nhw “fyth sefyll o’r neilltu wrth i bensiynwyr orfod dewis rhwng gwresogi eu tŷ a bwyta”.
Yn y cyfamser, mae Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, wedi dweud bod angen i Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, “weld synnwyr a lobio’i chydweithwyr yn San Steffan i newid eu meddyliau ar unwaith ac anghofio’r toriadau creulon hyn”.
“Bydd torri taliadau tanwydd y gaeaf yn golygu bod pobol hŷn yn mynd i fod yn oer ac yn dioddef dros y gaeaf.”
‘Penderfyniadau anodd’
Wrth gael ei holi ynglŷn â’r taliadau tanwydd i bensiynwyr yn y gynhadledd fore heddiw, dywedodd y Canghellor Rachel Reeves eu bod nhw wedi derbyn bwlch o £22bn mewn cyllidebau cyhoeddus pan enillodd Llafur yr Etholiad Cyffredinol dros yr haf.
Dywedodd hefyd eu bod nhw wedi gwneud “nifer o benderfyniadau anodd” i gau’r bwlch yn y gyllideb, gan gynnwys i’r taliadau tanwydd gaeaf.
“Doedd e ddim yn benderfyniad roeddwn i’n ddisgwyl ei wneud,” meddai.